Sŵ Borth wedi cael dau rybudd fod perygl i lyncs ddianc

  • Cyhoeddwyd
LillethFfynhonnell y llun, Sŵ Borth
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Lilleth yn un o ddau lyncs fu farw o Sŵ Borth o fewn tridiau i'w gilydd

Cafodd sŵ ddau rybudd bod yna berygl i lyncs allu dianc am fod coeden yn lloc yr anifail yn rhy uchel, fisoedd cyn i'r awdurdodau orfod saethu un yn farw ar ôl iddi fynd ar ffo.

Dywedodd Cyngor Ceredigion bod Wild Animal Kingdom yn Borth ger Aberystwyth wedi cael y rhybuddion yn Ebrill a Mai 2017.

Dihangodd y lyncs Ewrasaidd, Lilleth o'r atyniad rhwng 24 a 29 Hydref 2017, a bu'n rhaid ei difa ar gais yr awdurdod lleol ar 10 Tachwedd er mwyn diogelu'r cyhoedd.

Yn ôl ffynhonnell sydd â chysylltiad agos â'r sŵ, bu farw oherwydd anallu'r perchnogion, ond mae un o'r perchnogion, Tracy Tweedy yn dweud eu bod yn credu eu bod wedi tocio'r coed i'r graddau angenrheidiol.

Er gwaethaf rhybuddion gan filfeddyg a swyddog trwyddedau sŵ, ni chafodd y coed eu tocio nes ar ôl i'r lyncs neidio dros ffens y ganolfan.

'Gallu neidio o'r lloc'

Dywedodd y ffynhonnell, sydd â degawdau o brofiad yn gweithio mewn sŵ neu barc anifeiliaid gwyllt: "Nhw wnaeth golli eu lyncs eu hunain.

"Roeddwn i'n gwybod ei fod yn gallu dringo'r goeden, a bod y goeden yn uwch na'i lety nos - roedd yn gallu neidio o'r lloc.

"Dywedais wrthyn nhw bod y coed o fewn y lloc yn rhy uchel."

Disgrifiad o’r llun,

Prynodd Dean a Tracy Tweedy y sŵ 10 erw am £625,000 yn 2016

Yn ôl y cyngor, cafodd y sŵ rybudd gan filfeddyg ynglŷn â'r mater ym mis Ebrill y llynedd, ac yna gan swyddog trwyddedu wnaeth eu cynghori mewn person ac mewn ebost ar 4 Mai 2017.

Dywedodd Mrs Tweedy bod hi â'i gŵr, ar ôl dod yn gyfrifol am y sŵ ar 17 Mai 2017, wedi "tocio'r tyfiant ymhob un o'r llociau, gan gynnwys lloc y lyncs, ac fe gafodd hynny ei wneud sawl tro dros yr haf".

"Yn amlwg, o edrych yn ôl, wnaethon ni ddim torri'n ôl ddigon ond... dyna oedd yr amodau dan y perchennog blaenorol," meddai.

Ychwanegodd Mrs Tweedy fod cais y cyngor i docio tyfiant yn "sylw cyffredinol am y sŵ cyfan".

Dywedodd: "Rydym wedi gweithio'n gyson ers cymryd drosodd y llynedd i wella'r llociau a diogelwch staff a'r cyhoedd ac fe wnawn ni barhau i wneud hynny."

Cadarnhau marwolaeth ail lyncs

Mae'r ffynhonnell hefyd wedi datgelu fod ail lyncs, Nilly, wedi marw dridiau cyn i Lilleth gael ei saethu. a chwe diwrnod cyn y daeth cadarnhad gan y sŵ.

Mewn neges ar Facebook ar 13 Tachwedd, dywedodd y sŵ bod Nilly wedi marw "yr wythnos ddiwethaf" drwy gael ei mygu wrth gael ei chludo o un warchodfa i'r llall.

Dywedodd y cyngor eu bod yn deall fod Nilly wedi marw ar 7 Tachwedd a bod eu swyddogion wedi cael gwybod y diwrnod canlynol.

Yn ôl Mrs Tweedy, y rheswm dros beidio â gwneud cyhoeddiad yn gynt oedd am fod "rhaid canolbwyntio ar ddod i hyd i Lilleth".

Ffynhonnell y llun, Sŵ Borth
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna luniau o Lilleth ar gamera wedi iddi ddianc, ac roedd sawl ymdrech i'w dal

Cafodd Lilleth ei difa ar ôl cael ei darganfod mewn maes carafanau lleol.

Mae'r cyngor wedi dweud bod y sŵ ar fai am fethu â'i hatal rhag peryglu iechyd y cyhoedd, ac mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i fygythiadau yn erbyn y sawl a benodwyd i'w saethu.

Cafodd gorchymyn yn gwahardd y sŵ rhag cadw'r mathau mwyaf peryglus o anifeiliaid ei godi ym mis Gorffennaf ar yr amod eu bod yn cyflogi "person cymwys a phrofiadol... o fewn chwe mis" i reoli anifeiliaid y ganolfan.

Gan na fu'n bosib i filfeddyg annibynnol ddod i gasgliad penodol ynghylch marwolaeth Nilly wedi archwiliad post-mortem, doedd dim camau yn erbyn y sŵ gan "nad oedd yn debygol y byddai unrhyw erlyniad yn llwyddiannus".

Dywedodd y ffynhonnell: "Rwy'n 100% y byddai Lilleth yn dal yn fyw petai'r sefyllfa wedi'i rheoli'n gywir.

"Byddai'n iawn pe bai'r perchnogion yn rhedeg fferm anifeiliaid anwes am weddill eu bywydau, ond mae gan y bobl hyn lewod."