CPD Bangor yn 'cydnabod cyfrifoldeb' i dalu bil trydan

  • Cyhoeddwyd
Nantporth

Mae CPD Dinas Bangor wedi cadarnhau eu bod yn "cymryd cyfrifoldeb" dros dalu bil trydan £16,000, sydd heb ei dalu yn stadiwm Nantporth.

Mae'r cyflenwad wedi'i atal ers dydd Mercher sy'n golygu fod Bangor yn chwarae eu gêm gartref yng Nghynghrair Undebol Huws Gray ddydd Sadwrn yn erbyn Gresffordd ar faes Conwy.

Yn wreiddiol fe honnodd y clwb ei bod yn annheg disgwyl iddyn nhw dalu'r bil i gyd gan mai cwmni Nantporth CIC oedd yn defnyddio'r gyfran fwyaf o'r adnoddau ar y safle.

Mewn datganiad i raglen Ar y Marc, Radio Cymru, dywedodd Luke Purcell, rheolwr cyffredinol y clwb: "Mae'r bil trydan yn enw'r clwb, felly er bod hi'n sefyllfa ansicr, fe fydd yn rhaid i ni gymryd cyfrifoldeb dros y bil a'i dalu yn y pendraw."

'Taliadau perthnasol'

Mae cwmni Nantporth CIC, sy'n rhedeg y safle, sy'n cynnwys y stadiwm ac adeiladau eraill, yn ogystal â chae pêl-droed 3G y drws nesaf, ar ran y perchnogion, Cyngor Dinas Bangor eu bod eisoes wedi gwneud y "taliadau perthnasol."

Dywedodd llefarydd: "Mae Nantporth CIC wedi gwneud taliadau perthnasol i CPD Dinas Bangor, fel taliadau uniongyrchol neu fel credyd yn lle biliau oedd yn ddyledus i ni gan y clwb, un ai am ddefnydd o'r cae neu am ddyledion rhent."

Yn ogystal â chynnal gemau CPD Dinas Bangor, mae'r stadiwm wedi cael ei defnyddio ar gyfer gemau cartref clybiau lleol eraill mewn cystadlaethau Ewropeaidd.

Dywedodd Ian Gill sy'n un o gefnogwyr Bangor sydd wedi stopio mynychu gemau'r clwb y tymor hwn ar raglen y Post Cyntaf ar Radio Cymru "nad yw'r perchnogion presennol yn cynrychioli Bangor.

"Mae ganddo ni dim dydd wedi'i lleoli ym Mangor, maen nhw'n chwarae ar gae ym Mangor ond ddim tîm Bangor ydyn nhw. Pobl o'r tu allan ydi'r rhain," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyflenwad trydan wedi'i atal yn stadiwm Nantporth

Mae'r clwb wedi wynebu nifer o broblemau ers disgyn o Uwch Gynghrair Cymru'r tymor diwethaf, am fethu cael y drwydded angenrheidiol oherwydd trafferthion ariannol.

Mae cyflenwad dŵr y stadiwm hefyd wedi'i atal oherwydd dyled o £9,000, ac mae arian yn ddyledus i'r chwaraewyr a staff, yn ogystal.

'Cydnabod cyfrifoldeb'

Ychwanegodd Mr Purcell: "Yr hira rydan ni'n dadlau dros hyn, yna yr hira'n byd fydd y sefyllfa yn parhau heb gyflenwad pŵer yn y stadiwm, a tydi'n cefnogwyr ni ddim yn haeddu hynny.

"Mi rydan ni'n gobeithio cyhoeddi noddwr newydd i'r stadiwm yn y dyddiau nesa, ac eisoes wrthi'n cyfarfod grwpiau fyddai â diddordeb mewn ymuno yn y prosiect.

"Y flaenoriaeth rŵan ydi sicrhau fod ganddon ni glwb, ac er ein bod hi'n anodd ar hyn o bryd, rydan ni'n gobeithio y gwnawn ni weld dyddiau gwell.

"Mae'r clwb mor bwysig i'r cefnogwyr ac i'r ddinas ac mae'n rhaid i ni fel bwrdd gydnabod ein cyfrifoldeb.

"Y cefnogwyr sy'n gwneud y clwb, a fyddwn i ddim dal yma'n bersonol, oni bai am y gefnogaeth dwi'n ei gael ganddyn nhw.

"Mae ganddon ni wirfoddolwyr sy'n deyrngar i'r clwb, ac sy'n barod i weithio a sicrhau fod dyddiau gwell ar ddod I Glwb Pêl-droed Dinas Bangor," meddai.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bangor wedi cael caniatad i chwarae eu gêm gartref yn erbyn Gresffordd ddydd Sadwrn ar faes Conwy