Dechrau chwilio gwely'r môr am weddillion awyren Sala

  • Cyhoeddwyd
Emiliano Sala a David IbbotsonFfynhonnell y llun, Getty Images/David Ibbotson
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Emiliano Sala (chwith) ar yr awyren oedd yn cael ei hedfan gan y peilot, David Ibbotson

Bydd y gwaith o chwilio ar hyd gwely'r môr am arwyddion o awyren Emiliano Sala'n dechrau ddydd Sul.

Mae disgwyl i Gangen Ymchwilio Damweiniau Awyr (AAIB) gyrraedd yr ardal chwilio am 09:00 y bore.

Bydd timau chwilio yn defnyddio technoleg sonar arbenigol y llong, FPV Morven er mwyn sganio'r ardal sydd o ddiddordeb.

Fe ddiflannodd ymosodwr newydd Caerdydd, 28, ynghyd a pheilot y Piper Malibu, David Ibbotson, wrth hedfan dros Fôr Udd wythnos ddiwethaf.

Ailddechrau chwilio

Mae'r gwaith chwilio wedi ei ariannu yn breifat ar ôl i ymgyrch codi arian gasglu dros €320,000.

Fore Llun fe wnaeth ymchwilwyr Ffrengig ddarganfod rhan o glustog sedd awyren ar draeth ger Surtainville, Ffrainc, ac yn dilyn asesiad manwl y gred yw bod y darnau wedi dod o'r awyren coll.

Ffynhonnell y llun, David Mearns
Disgrifiad o’r llun,

Bydd timau chwilio yn defnyddio technoleg sonar arbenigol y llong, FPV Morven er mwyn sganio'r ardal sydd o ddiddordeb.

Er bod timau wedi chwilio dros 1,700 milltir sgwâr o Fôr, nid oedd yna'r un golwg o'r awyren na'i theithwyr felly fe ddaeth y gwaith chwilio swyddogol i ben ddydd Iau.

Ar ôl i ymgyrch codi arian gasglu dros €300,000 fe wnaeth y chwilio ailddechrau'n breifat ddydd Sadwrn.

'Anodd dygymod'

Dywedodd David Mearns sy'n cydlynu rhan o'r chwilio, y byddai ei dim yn gweithio ar y cyd gydag ail gwch sydd wedi'i gomisiynu gan gangen Ymchwilio Damweiniau Awyr.

"Mae'r teulu yn ei gweld hi'n anodd dygymod gyda beth sydd wedi digwydd.

"Rydym yn ceisio canfod atebion iddyn nhw ynglŷn â beth ddigwyddodd. Fe gyrhaeddodd deulu Emiliano Sala ar ynys Gurnsey yn dilyn ei ddiflaniad ac fe aethant nhw i weld yr ardal sydd eisoes wedi cael ei ymchwilio," meddai.

Ychwanegodd Mr Mearns byddai'r ddau gwch yn haneru'r ardal chwilio, gan edrych allan am "weddillion" mewn dyfnder o 60-120 metr.

Byddwn yn parhau i chwilio nes bydd yr awyren yn cael ei chanfod," meddai.

Ffynhonnell y llun, Josette Bernard
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i weddillion sedd awyren ar draeth Surtainville