Uwch Gynghrair Lloegr: Caerdydd 2-0 Bournemouth

  • Cyhoeddwyd
Bobby ReidFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddathlodd Bobby Reid ei gôl drwy godi crys glas gyda llun o Emiliano Sala arno'n uchel i ddangos i'r dorf.

Ar ddiwrnod emosiynol yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sadwrn, ennill oedd hanes yr Adar Gleision yn erbyn Bournemouth.

Cyn y gêm roedd teyrngedau lu y tu allan a'r tu mewn i'r stadiwm i ymosodwr Caerdydd, Emiliano Sala.

Fe ddiflannodd ymosodwr newydd Caerdydd, 28, ynghyd a pheilot y Piper Malibu, David Ibbotson, wrth hedfan dros Fôr Udd wythnos ddiwethaf.

Mae'r chwilio am y ddau yn ailddechrau'n breifat ddydd Sadwrn ar ôl i ymgyrch codi arian gasglu dros €300,000.

Cic o'r smotyn

O ran y gêm fe aeth Caerdydd ar y blaen wedi pum munud gyda chic o'r smotyn Bobby Reid wedi'i Steve Cook lawio yn y cwrt cosbi.

Fe ddathlodd Reid y gôl drwy godi crys glas gyda llun o Emiliano Sala arno'n uchel i ddangos i'r dorf.

Roedd Niasse, sydd ar fenthyg o Everton yn creu trafferthion i amddiffyn Bournemouth gyda'i rediadau cyflym.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Fe berfformiodd Sol Bamba yn wych yn amddiffyn Caerdydd

Fe ddechreuodd Bournemouth ddod mewn i'r gêm gan fwynhau llawer o'r meddiant, ond roedd amddiffyn Caerdydd yn sefyll yn gadarn yn erbyn yr ymosodiad.

Wedi 27 munud fuodd bron i Bourmenouth unioni'r sgôr. Llwyddodd Neil Etheridge yn y gôl i Gaerdydd bwnio ergyd gan Andrew Surman yn erbyn y trawst.

Munud yn ddiweddarach roedd y dorf i gyd yn cymeradwyo ac yn canu cân arbennig i Emiliano Sala.

Am y tro cyntaf y tymor hwn fe aeth Caerdydd fewn ar yr hanner ar y blaen.

15 eiliad yn unig gymerodd hi i Gaerdydd ddyblu eu mantais yn yr ail hanner.

Yn syth o'r gic gyntaf llwyddodd pas Gunnarsson i ddarganfod Bobby Reid ac fe redodd gyda'r bêl o amgylch Boruc yn y gôl i Bournemouth a phasio'r bêl i rwyd wag.

Sol yn serennu

Roedd Bournemouth yn credu y dylai nhw fod wedi cael cic o'r smotyn ar ôl 58 o funudau gan honni fod Sol Bamba wedi llawio yn y cwrt, ond fe benderfynodd y dyfarnwr chwarae ymlaen.

Unwaith eto roedd Niasse yn achosi problemau i amddiffyn Bournemouth nes iddo gael ei eilyddio gyda saith munud yn weddill ar y cloc.

Roedd Bournemouth yn parhau i greu hanner cyfleoedd ond roedd Sol Bamba'n parhau i sefyll yn gadarn yn amddiffyn Caerdydd.

Daeth y gêm i ben gyda goliau cynnar yn y naill hanner yn ddigon selio buddugoliaeth bwysig i'r Adar Gleision.