Llwyddiant ar ôl ennill Brwydr y Bandiau

  • Cyhoeddwyd

Eisiau bod mewn band roc a rôl, a chael y dorf i'ch galw chi nôl?

Wrth i ddyddiad cau cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2019 agosáu, ac hithau'n Ddydd Miwsig Cymru, mae Cymru Fyw'n dathlu rhai o'r bandiau sydd wedi dod i'r brig dros y blynyddoedd.

Roedd dwy gystadleuaeth Brwydr y Bandiau yn arfer digwydd yn flynyddol yng Nghymru, cyn i gystadleuaeth Eisteddfod a Maes B, ac un C2 BBC Radio Cymru a Mentrau Iaith Cymru uno yn 2015.

Mae'r gystadleuaeth wedi agor drysau i nifer o fandiau ac artistiaid dros y blynyddoedd - efallai fod rhai ohonyn nhw'n gyfarwydd...

Eryr

Disgrifiad o’r llun,

Yn 2003, cynhaliwyd Brwydr y Bandiau cyntaf C2 a Mentrau Iaith Cymru, a'r enillwyr oedd Eryr. Aeth yr aelodau Aled a Dafydd Hughes ymlaen i sefydlu Cowbois Rhos Botwnnog gyda'u brawd Iwan

Zootechnics

Disgrifiad o’r llun,

Enillwyr Brwydr y Bandiau yr Eisteddfod Genedlaethol a Maes B yn 2006 oedd Zootechnics. Sefydlodd aelodau'r band, Daf a Gruff, y band Palenco (yn y llun) a'r label cerddoriaeth Klep Dim Trep

Creision Hud

Disgrifiad o’r llun,

Creision Hud oedd enillwyr ByB Maes B yn 2007. Profodd y band o ardal Caernarfon lwyddiant dros y blynyddoedd nesaf, gan newid ei enw i Hud yn 2012. Mae'r prif leisydd, Rhydian Gwyn Lewis, bellach yn aelod o'r band Rifleros

Amheus

Disgrifiad o’r llun,

Amheus, band o Lanymddyfri, a enillodd gystadleuaeth C2 yn 2007. Pwy sydd yn gwenu'n ddel yn y rhes flaen ar y dde? Neb llai na Heledd Watkins sydd yn aelod o'r band arbrofol llwyddiannus, HMS Morris

After an Alibi

Disgrifiad o’r llun,

After an Alibi ddaeth i'r brig yn ByB Maes B yn 2009. Aeth rhai o'r aelodau ymlaen i sefydlu I Fight Lions, gan gynnwys Hywel Pitts, sydd hefyd yn perfformio ar ei ben ei hun

Sŵnami

Disgrifiad o’r llun,

Sŵnami oedd yr enillwyr yn Maes B yn 2011. Cafodd y band ei ddewis i fod yn un o'r 12 artist a gafodd le ar gynllun Gorwelion y BBC yn 2014, sydd yn helpu i ddatblygu cerddoriaeth newydd yng Nghymru. Mae'r prif leisydd, Ifan Davies, hefyd yn canu â bandiau Yr Eira ac Yws Gwynedd

Y Ffug

Disgrifiad o’r llun,

Y Ffug, band o Sir Benfro, a enillodd ByB C2 yn 2013. Efallai fod gwallt y prif leisydd wedi newid dros y blynyddoedd, ond mae sŵn unigryw y band yn parhau ac hyd yn oed wedi cael cefnogi Super Furry Animals yn 2016

Kizzy Crawford

Disgrifiad o’r llun,

Kizzy Crawford ddaeth i'r brig yn Maes B yn 2013 a chael bod yn rhan o gynllun Gorwelion 2014. Mae hi wedi mynd o nerth i nerth ac yn aml yn perfformio mewn cyngherddau a gwyliau ledled Cymru a thu hwnt. Yn ddiweddar bu'n rhan o brosiect Birdsong/Cân yr Adar gyda'r pianydd Gwilym Simcock a Sinfonia Cymru

Ar Goll mewn Cemeg

Disgrifiad o’r llun,

Enillwyr ByB C2 yn 2015 oedd Ar Goll mewn Cemeg - band o'r Barri. Mae'r band hefyd yn canu o dan yr enw Saesneg Lost in Chemistry ac wedi perfformio ledled y DU

Chroma

Disgrifiad o’r llun,

Chroma oedd yr enillwyr yn 2016. Dewiswyd y band o Bontypridd i fod yn rhan o raglen Gorwelion y BBC yn 2018

Y Sybs

Disgrifiad o’r llun,

Ac enillwyr cystadleuaeth 2018, a gafodd ei gyhoeddi yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, oedd y band lleol Y Sybs. Fel rhan o'r wobr, cafodd y pedwarawd recordio sesiwn arbennig ar gyfer BBC Radio Cymru, a gafodd ei ddarlledu ar raglen Lisa Gwilym ddiwedd Ionawr 2019. Mae'r sesiwn wedi cael ymateb gwych, sy'n awgrymu fod gan y band ifanc ddyfodol disglair o'u blaenau...

Cofiwch wneud eich cais i gystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2019, dolen allanol erbyn canol nos 15 Chwefror os ydych chi eisiau cystadlu a bod â'r cyfle i gael eich coroni yn un o fandiau ifanc gorau Cymru.

Hefyd o ddiddordeb: