Murluniau Port Talbot yn codi gobeithion yn y dref
- Cyhoeddwyd
Mae murluniau newydd ar adeiladau ym Mhort Talbot wedi codi gobeithion y bydd mwy o gelf o'r fath yn denu mwy o ymwelwyr i'r ardal.
Daw ar ôl i'r arlunydd enwog Banksy greu murlun ar adeilad yn yr ardal ar ddiwedd 2018.
Daeth tua 20,000 o bobl i weld celf Banksy o fewn mis, ac mae bellach wedi ei werthu gan berchennog y garej lle cafodd ei baentio am "swm chwe ffigwr".
Cafodd tri darn unigol eu creu ar wahanol adeiladau yn ardal Tai Bach dros y penwythnos, sy'n ymddangos yn amlygu pryderon am amgylchedd Port Talbot.
Dywedodd yr arlunydd, sy'n cael ei adnabod fel James Ame neu Ame72, mai gwahoddiad gan ddyn lleol wnaeth sbarduno'r gwaith.
'Natur artistig y dref'
Mae'r arlunydd yn dweud iddo gael y gwahoddiad gan ddyn lleol, Gary Owen, oedd eisiau iddo greu datganiad artistig am broblem llwch yr ardal.
Mae un o'r murluniau wedi ei greu ar ddrws metel garej lleol yn dangos dyn Lego yn chwistrellu'r geiriau "I wish my wife was this dirty" mewn paent.
Dywedodd yr arlunydd fod y geiriau'n cyfeirio at broblem llwch yr ardal, ac wedi eu hysbrydoli gan yr hyn mae wedi ei weld ar gefn ceir a lorïau budr.
Mae'r murluniau newydd wedi codi gobeithion y gallai Port Talbot ddatblygu i fod yn ardal lle gall nifer o artistiaid ddod i greu darluniau tebyg.
Yn ôl rheolwr garej lle mae un o'r murluniau, Tony Evans, mae pobl wedi bod yn "heidio i'r safle i weld y celf".
"Des i mewn i'r gwaith fore Sadwrn ac o'n i'n meddwl fod rhywun wedi fandaleiddio'r drws.
"Dwi'n meddwl ei fod yn wych."
Ymysg y bobl oedd wedi dod i weld y celf newydd oedd cyn-weithiwr yn y diwydiant dur, Chris Aubery.
Dywedodd: "Rydym wedi cael sêr fel Anthony Hopkins a Michael Sheen yn dod o'r ardal ac mae hwn yn ychwanegu at natur artistig y dref.
"Dwi'n gobeithio bydd hyn yn parhau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2019