Casglwr yn cynnig £100,000 am waith Banksy Port Talbot
- Cyhoeddwyd
Mae casglwr wedi cynnig talu tua £100,000 i brynu'r darn celf gan Banksy sydd ar ochr garej ym Mhort Talbot, yn ôl un deliwr celf.
Mae perchennog y garej, Ian Lewis wedi derbyn sawl cynnig gan gasglwyr preifat yn gobeithio prynu'r darn graffiti.
Mae'r deliwr celf ac arbenigwr ar waith Banksy, John Brandler wedi dweud byddai ei gleient yn fodlon talu swm chwe ffigwr "gan y byddai'n ffitio'n daclus yn ei gasgliad".
Mae disgwyl i Mr Lewis gwrdd â Llywodraeth Cymru a'r Cyngor Celfyddydau i drafod opsiynau eraill.
20,000 o bobl
Yn gynharach yn yr wythnos dywedodd Mr Lewis ei bod yn ei gweld hi'n anodd ymdopi gyda'r pwysau o fod yn berchen ar waith celf mor boblogaidd.
Mae Cyngor Sir Castell-nedd Port Talbot wedi cynnig i dalu am "fenthyg" y gwaith i'r cyhoedd.
Mae gwirfoddolwyr yn amcangyfrif dod mwy na 20,000 o bobl bellach wedi ymweld â'r safle i edrych ar y gwaith.
Dywedodd Mr Brandler byddai unrhyw gynnig gan ei gleient yn agos at £100,000.
"Mae'n casglu gwaith Banksy a gwaith celf stryd eraill, mae'n casglu amrywiaeth o waith celf," meddai.
"Mae ganddo'r lleoliad i arddangos y gwaith, ond dwi'n credu y byddai hefyd yn ystyried yr ochr gymdeithasol hefyd."
Gwarchod y garej
Ychwanegodd y deliwr y byddai ei gleient yn ystyried cadw'r darn ym Mhort Talbot am y tro fel rhan o unrhyw gytundeb.
"Fe allai fod yn ffordd dda o ddenu pobl i ganol y dref a byddai'n helpu busnesau lleol, oherwydd dydy Port Talbot ddim yn cael ei ystyried yn lleoliad sydd ar frig rhestr twristiaid, felly byddai'n helpu'r gymuned leol yn y ffordd yna," meddai.
Bellach mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd cyfrifoldeb o warchod y garej.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Yn dilyn trafodaethau cadarnhaol gyda Mr Lewis, rydym wedi cynnig i gymryd y rheolaeth o'r trefniadau diogelwch.
"Dros dro fydd hyn ond byddai'n rhoi ychydig o le i Mr Lewis ystyried ei opsiynau ar gyfer y dyfodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2018