Cwpan FA Lloegr: Casnewydd 2-0 Middlesbrough

  • Cyhoeddwyd
Robbie Willmott yn dathlu gôl agoriadol Casnewydd yn erbyn BoroFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Robbie Willmott yn dathlu gôl agoriadol Casnewydd yn erbyn Boro

Bydd Casnewydd yn wynebu'r cewri Manchester City ym mhumed rownd Cwpan FA Lloegr wedi iddyn nhw drechu Middlesbrough o 2-0.

Fe sicrhaodd goliau Robbie Willmott a Padraig Amond fuddugoliaeth gofiadwy arall i'r Alltudion ar Rodney Parade.

Roedd tîm Mike Flynn eisoes wedi curo Caerlŷr o'r Uwch Gynghrair yn y rownd ddiwethaf.

A'r wobr o guro Boro - sy'n bumed yn y Bencampwriaeth - fydd gêm gartref yn erbyn Man City yn y rownd nesaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tony Pulis (chwith), rheolwr Middlesbrough, a Mike Flynn, rheolwr Casnewydd - y ddau o ardal Pillgwenlli yn y ddinas

Mewn tywydd garw, ac ar gae anodd, y tîm cartref oedd yn bygwth fwyaf yn yr hanner cyntaf wrth iddyn nhw ddelio'n well gyda'r amodau.

Er mai di-sgôr oedd hi ar yr egwyl, doedd dim yn rhaid i'r cefnogwyr ddisgwyl yn hir am y gôl agoriadol.

Sgoriodd Willmott gydag ergyd nerthol wedi 47 munud, cyn i Amond ychwanegu ail 20 munud yn ddiweddarach.

'Diwrnod anferth'

Dywedodd cyn-ymosodwr Cymru, Iwan Roberts ar BBC Radio Cymru: "Maen nhw 'di rhoi gwers i dîm da ar sut i chwarae pêl-droed ar gae annifyr ac maen nhw'n llwyr haeddu mynd drwodd i'r rownd nesaf.

"Fe fydd hi'n ddiwrnod anferth i'r clwb. Wrth gwrs mai Man City fydd y ffefrynnau ond ni fydd Pep Guardiola a holl sêr City yn edrych 'mlaen i ddod lawr i Rodney Parade," meddai.

"Dwi ddim yn meddwl bydd cyflwr y cae yn grêt a gobeithio y bydd hi'n ddiwrnod anodd iddyn nhw. Bydd 'na'm llawer o gysgu i gefnogwyr Casnewydd cyn y gêm"

Ond doedd y canlyniad ddim yn annisgwyl i bawb, fel eglurodd Idris Charles ar y Post Cyntaf: "Ro'n i yn rhyw amau. Roedd yna ryw deimlad yn y ddinas, ryw deimlad ymysg y cefnogwyr.

Ychwanegodd: "Roedd 'wbath yn yr awyr neithiwr, teimlad tebyg iawn i pan wnaethon ni guro Caerlŷr. Ac i ddweud y gwir wnaethon ni ennill y gêm yn hawdd!"

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Roedd hi'n noson fythgofiadwy i golwr Casnewydd, Joe Day

Wrth i chwaraewyr Casnewydd ddathlu'r fuddugoliaeth hanesyddol, roedd rhaid i gôl-geidwad yr Alltudion, Joe Day, adael y cae ar frys.

Daeth i'r amlwg bod gwraig Day, Lizzie, ar fin rhoi genedigaeth i efeilliaid.

Roedd y golwr wedi methu'r gêm gyntaf yn erbyn Middlesbrough am yr un rheswm.

Bore Mercher, dywedodd sgoriwr yr ail gôl, Padraig Amond, wrth y BBC fod Mrs Day wedi rhoi genedigaeth i ddwy ferch dros nos a bod pawb yn iach.

Ffynhonnell y llun, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan

Wrth ymateb i'r ffaith bod Casnewydd ar fin herio pencampwyr Uwch Gynghrair Lloegr, dywedodd y rheolwr Mike Flynn: "Mae o [Guardiola] yn feistr yn ei gamp, ac yn rhywun dwi wir yn ei edmygu...

"Fydd rhaid i ni fod yn barod, efallai bydd rhaid i mi chwarae naw o'r hogiau yn yr amddiffyn.

"Mae hi'n anodd disgrifio sut dwi'n teimlo ar y funud. Dwi wedi bod yn poeni'n ofnadwy, nid oherwydd y gêm ond gan fy mod i'n gwybod pa mor bwysig oedd hyn i'r clwb, ac i'r ddinas i gyd.

"Mae'r cefnogwyr yma yn haeddu hyn ar ôl bob dim maen nhw wedi ei brofi. Dwi wir yn caru'r clwb."