Cwpan FA Lloegr: Casnewydd 2-1 Caerlŷr
- Cyhoeddwyd

Jamille Matt yn neidio'n uwch na chapten Caerlŷr, Wes Morgan, i benio Casnewydd ar y blaen
Mae Casnewydd drwodd i bedwaredd rownd Cwpan yr FA ar ôl trechu Caerlŷr o Uwch Gynghrair Lloegr o 2-1.
Roedd cic o'r smotyn hwyr Padraig Amond yn ddigon i hawlio buddugoliaeth gofiadwy i'r Alltudion.
Roedd pob tocyn wedi'i werthu ar gyfer y gêm ar Rodney Parade, a chafodd y mwyafrif ddim eu siomi, gyda'r tîm cartref yn mynd ar y blaen wedi 10 munud o'r chwarae.
Fe neidiodd Jamille Matt yn uwch na'r amddiffyn i benio'r bêl yn erbyn y postyn ac i gefn y rhwyd yn dilyn croesiad cywir Robbie Willmott.
Er i'r ymwelwyr greu digon o gyfleoedd yn yr hanner cyntaf, roedd gôl-geidwad Caerlŷr - y Cymro Danny Ward - yn brysur hefyd.

Padraig Amond yn rhwydo o'r smotyn gyda munudau'n weddill
Rheolodd Caerlŷr y rhan fwyaf o'r chwarae wedi'r egwyl, ac roedd y pwysau'n ormod gyda Rachid Ghezzal yn unioni'r sgôr ag ergyd nerthol 10 munud o'r diwedd.
Ond yn fuan wedyn fe sgoriodd Amond o'r smotyn ar ôl i Marc Albrighton - a oedd wedi bod yn fywiog i'r ymwelwyr drwy gydol y gêm - lawio yn y bocs.
Roedd amddiffyn Casnewydd yn gadarn tan y diwedd, gan sicrhau buddugoliaeth gofiadwy a haeddiannol i'r Alltudion.