Snwcer: Gwahardd dau Gymro wedi ymchwiliad i dwyllo

  • Cyhoeddwyd
Jamie JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Aeth Jamie Jones i'r 16 olaf ym Mhencampwriaeth y Byd 2018

Mae dau chwaraewr snwcer o Gymru wedi eu gwahardd o'r gamp yn dilyn ymchwiliad i dwyllo.

Bydd y cyn-chwaraewr proffesiynol David John yn treulio cyfnod o bum mlynedd a saith mis allan o'r gêm tra bod Jamie Jones wedi ei wahardd am flwyddyn.

Daeth yr ymchwiliad i'r casgliad fod Jones - oedd yn rhif 39 ar restr detholion y byd pan gafodd ei gyhuddo - yn ddieuog o drefnu canlyniad gemau, ond fe wnaeth gyfadde' nad oedd wedi adrodd am ymgais i dwyllo gan eraill.

Cafodd ei wahardd ym mis Hydref wedi iddo gael ei gyhuddo o fod yn rhan o gynllwyn i drefnu canlyniad gêm rhwng John a Graeme Dott.

Ond fe wnaeth panel disgyblu benderfynu nad oedd wedi torri rheolau betio y corff llywodraethu sef y WPBSA (World Professional Billiards and Snooker Association).

Fe wnaeth John - a fu'n rhif 68 ar restr detholion y byd ar un cyfnod - gyfadde' trefnu canlyniadau dwy gêm lle nad oedd ei wrthwynebwyr yn ymwybodol o'r cynllwyn.

Cafodd John orchymyn i dalu £17,000 o gostau, tra bydd rhaid i Jones talu £9,000.

Dywedodd cadeirydd y WPBSA, Jason Ferguson: "Yn achos David John, y neges glir yw nad oes lle o gwbl i drefnu canlyniadau ym myd snwcer.

"Mae Jamie Jones yn chwaraewr proffesiynol uchel ei barch, a does gen i ddim amheuaeth nad yw erioed wedi trefnu canlyniad gêm... mae'n drueni gweld nad yw'r chwaraewr talentog yma wedi adrodd ei fod yn gwybod am drefniant i drefnu canlyniad gêm."

Ni fydd Jones yn cael chwarae eto tan fis Hydref 2019.