Datblygiadau'n dangos diffyg parch at barcdir rhestredig

  • Cyhoeddwyd
Rhan o faes parcio Parc Fferm ManorafonFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Rhan o faes parcio presennol Parc Fferm Manorafon sy'n ffinio â thir Castell Gwrych

Mae atyniad twristiaid a ddenodd 45,000 o ymwelwyr yn 2018 wedi cael ei gyhuddo o ddiffyg parch at brydferthwch yr ardal o'i amgylch.

Yn ôl Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru (YGHC), nid yw datblygiadau ar safle Parc Fferm Manorafon ger prif fynedfa Castell Gwrych, Abergele, yn cydfynd â'r ymgais i adfer yr adeilad, sy'n dyddio o'r 19eg ganrif.

Mae'r ymddiriedolaeth yn gwrthwynebu ceisiadau cynllunio yn ymwneud ag atyniadau sydd eisoes wedi eu cwblhau ar y safle, a chais arall i greu maes parcio newydd.

Ond yn ôl llefarydd ar ran y parc, mae'r gwelliannau o fudd i drigolion ac ymwelwyr â'r ardal, ac mae creu mwy o lefydd parcio yn caniatáu iddyn agor am naw mis y flwyddyn yn hytrach na chwech.

Drysfa

Fe agorwyd y parc fferm yn 2016 ar fferm Manorafon ac yn 2017 daeth 25,000 o ymwelwyr yno. Ychwanegwyd rhagor o lociau anifeiliaid a llwybrau, ac erbyn 2018 roedd nifer yr ymwelwyr wedi bron â dyblu.

Yn ddiweddarach crëwyd llwybr fferm a drysfa ar y safle, ond ni chafwyd caniatâd cynllunio ar eu cyfer. Mae cais cynllunio ôl-weithredol wedi ei gyflwyno i Gyngor Sir Conwy.

Mae cais arall am faes parcio ger porthordy'r (lodge) castell, ac yn agos i'r maes carafán a gwersylla, hefyd wedi ei gyflwyno.

Ond mae YGHC yn honni y byddai'r camau yn gor-ddatblygu'r safle ac yn tynnu oddi wrth y parcdir rhestredig Gradd II, sy'n amgylchynu'r castell.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Castell Gwrych ar bwys lôn orllewinol yr A55

Dywedodd Glynis Shaw, cadeirydd cangen Clwyd o'r YGHC eu bod yn gwrthwynebu ar y sail bod y datblygiadau yn dangos dim parch at safle rhestredig.

"Mae'r hyn oedd unwaith yn fynedfa goediog i barcdir rhestredig, bellach wedi cael ei ddiraddio a'i ddinoethi o goed, gan adael yr ardal yn ddiffrwyth ac wedi'i droi at ddefnydd amaethyddol ar gyfer fferm anifeiliaid bychain ac atyniad twristiaid," meddai.

Dywed yr ymddiriedolaeth nad yw'r ddrysfa - sydd mewn llecyn oedd unwaith yn dir pori - yn cydweddu â'r tirlun, ac y dylid plannu coed o amgylch y llwybr fferm cyn i'r safle ailagor am y tymor.

"Mae angen tirlunio iawn yno neu fel arall dylid tynnu'r datblygiadau oddi yno ac adfer y safle i'w gyflwr gwreiddiol," ychwanegodd Ms Shaw.

'Atyniad teuluol addysgiadol'

Dywedodd Will Arrowsmith, llefarydd ar ran Manorafon, y byddai'r maes parcio caled yn caniatáu i'r atyniad fod ar agor am naw mis o'r flwyddyn yn hytrach na chwech.

"Mae'r llwybr fferm yn ychwanegiad bychan iawn i'r atyniad yma, sy'n prysur dyfu," meddai.

"Byddai'r cyfleuster hamdden ychwanegol o fudd i drigolion Abergele ac i ymwelwyr, ac yn ymestyn y gweithgareddau a chyfleusterau sydd ar gael yn y dref, ac yn darparu atyniad teuluol ac addysgiadol ei naws."