Academi newydd i daclo prinder meddygon radiolegol

  • Cyhoeddwyd
Academi
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y myfyrwyr cyntaf ddechrau hyfforddi ym mis Awst y llynedd

Fe allai academi newydd gwerth £3.4m wneud "cyfraniad aruthrol" i'r ymdrech i daclo prinder sylweddol o feddygon radiolegol, yn ôl arbenigwyr yn y maes.

Bydd yr Academi Ddelweddu Genedlaethol yn agor yn swyddogol ym Mhen-coed ger Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Llun, gan ganiatáu i ddwywaith gymaint o feddygon iau hyfforddi yn radiolegwyr yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Yn ystod y ddegawd ddiwethaf mae nifer y cleifion sy'n cael sganiau, gan gynnwys CT, MRI ac uwchsain, wedi cynyddu o 24,000 y mis i dros 40,000.

Gyda'r galw yn cynyddu a'r sganiau yn llawer mwy manwl, does dim digon o feddygon i ddehongli'n gyflym yr holl ddelweddau.

Disgrifiad o’r llun,

Erbyn hyn mae sganio yn allweddol i waith y gwasanaeth iechyd

Mae gan Gymru hefyd gyfran uwch o radiolegwyr sydd ar fin ymddeol nag unrhyw wlad arall yn y DU.

O ganlyniad i sefydlu'r academi newydd mae yna botensial i gynyddu'r nifer sy'n hyfforddi i fod yn radiolegwyr yng Nghymru o tua 45 i 100.

Dywedodd, Dr Sian Phillips, radiolegydd a phennaeth hyfforddi gyda Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg: "Ni'n gallu gwneud mwy o ddysgu mewn llai o amser, ni'n gallu cael mwy o bobl trwy'r system.

"Ni'n gallu hyfforddi 20 neu 25 y flwyddyn, lle o'r blaen roedd e'n bump neu chwech y flwyddyn."

Arbed amser

Bydd cysylltiadau cyfrifiadurol yn caniatáu i feddygon weld ac astudio sganiau pob ysbyty yng Nghymru.

Fe fydd yr un dechnoleg yn caniatáu i feddygon ymgynghorol sy'n gyfrifol am hyfforddi arbed amser drwy allu cyflawni peth o'u gwaith arferol yn yr academi heb orfod dychwelyd i'w hysbytai.

Ffynhonnell y llun, Corbis
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd sgrinio MRI ei ddefnyddio gyntaf mewn ysbytai yn 1967

Dywedodd Dr Dafydd ap Emyr, meddyg iau radioleg yn ei bedwaredd flwyddyn: "Gyda'r galw sydd mas 'na bydd lot fwy o bobl yn dod mewn i'r maes a dysgu beth yw radioleg, bydd lot mwy ohonom ni mas 'na.

"Mae 'na gwpwl o lefydd yn Lloegr sy'n debyg i hwn, ond hwn yw'r lle cyntaf yng Nghymru sydd â'r cyfleusterau yma."

Tra'n croesawu'r buddsoddiad cychwynnol o £3.4m gan Lywodraeth Cymru mae Coleg Brenhinol y Radiolegwyr (CBR) yn rhybuddio y gallai'r arian gael ei wastraffu oni bai fod y llywodraeth yn cyllido digon o lefydd hyfforddi i lenwi'r academi newydd.

Prinder radiolegwyr

Dywedodd Dr Toby Wells, ysgrifennydd Pwyllgor Sefydlog Cymru CBR ac arweinydd ar gyfer radioleg yng Nghymru: "Mae delweddu meddygol ac arbenigedd radiolegwyr yn hanfodol i daith bron pob claf.

"Er enghraifft, mae canlyniadau cyflym yn hanfodol ar gyfer cael diagnosis canser cynnar.

"Ond er bod y galw am sganiau'n cynyddu, nid yw nifer y radiolegwyr Cymraeg sydd ar gael i'w dehongli yn cyfateb i'r galw.

"Mae'r model academi newydd yn golygu y byddwn yn gallu dechrau mynd i'r afael â phrinder sylweddol o radiolegwyr, byddwn hefyd yn medru hyfforddi'r genhedlaeth nesaf â'r dechnoleg ddiweddaraf."

Mae 14 o feddygon iau blwyddyn gyntaf yn cael eu haddysgu yn yr Academi Ddelweddu, gyda disgwyl iddyn nhw orffen eu hyfforddiant yn 2022/23.

Fodd bynnag, mae gan yr academi y gallu i addysgu 20 dan hyfforddiant, gyda'r potensial i ehangu.