Synod Inn: Heddlu yn arestio un dyn
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi arestio dyn wedi ymosodiad honedig yn Synod Inn dydd Sadwrn.
Mae'r dyn 29 oed o Sussex wedi ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar blismon ac o fynd â thri cherbyd heb ganiatâd.
Dywedodd llefarydd eu bod yn parhau i chwilio am ail ddyn mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Mae nifer o blismyn ar hyn o bryd yn Aberteifi ar ôl i'r heddlu dderbyn gwybodaeth gan y cyhoedd.
Mae'n nhw'n galw ar bobl i gadw eu ceir ac adeiladau allanol ar glo am y tro.
Cafodd yr heddlu eu galw i Synod Inn, ger Cei Newydd, tua 13:15 brynhawn Sadwrn ar ôl i rywun ymosod ar heddwas wedi iddo stopio car.
Bu heddlu arfog ynghyd â hofrennydd yn chwilio'r ardal.
Mae'r heddlu yn parhau i apelio am gymorth y cyhoedd wrth iddynt chwilio am ddyn gwyn, sydd o bosib yn gwisgo trowsus byr a chrys-t gwyn gyda streipen lwyd.
'Cadw allweddi yn ddiogel'
Dywedodd y prif uwch arolygydd Peter Roderick: "Rydym yn gofyn i bobl barhau yn wyliadwrus ond i beidio â bod ofn.
"Ar hyn o bryd rydym yn credu fod yr ail ddyn yn fwy o risg i swyddogion yr heddlu nag aelodau'r cyhoedd," meddai.
"Rydym yn parhau i annog pobl yng Ngheredigion i gadw eu cerbydau wedi cloi, gyda'r allweddi mewn lle diogel. Bydd hyn yn lleihau y cyfle [i'r ail ddyn] i adael yr ardal.
"A wnewch chi roi gwybod i'r heddlu am unrhyw beth amheus, yn enwedig pe baech yn meddwl fod rhywun yn defnyddio sied neu adeilad allanol fel man cysgodi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2019