Cwpan y Byd ar ôl 20 munud o ymarfer
- Cyhoeddwyd
Daeth Cymro yn 12fed mewn pencampwriaeth bobsled paralympaidd y byd - ar ôl dim ond 20 munud o ymarfer.
Doedd Brian Roberts, sydd mewn cadair olwyn ers cael damwain beic modur yn 1996, ddim yn gwybod am fodolaeth y gamp paralympaidd tan ddeufis yn ôl.
Roedd wedi bod yn rasio mewn cystadlaethau cartio ers blynyddoedd wedi iddo addasu cerbyd roedd o'n gallu ei yrru er nad oes ganddo ddefnydd o'i gorff o'i frest i lawr.
Bedair blynedd yn ôl roedd rhaid iddo roi'r gorau i hynny hefyd wedi iddo golli'r defnydd o'i fraich dde ar ôl cael feirws, ac roedd yn chwilio am sialens newydd.
Felly o fewn wythnosau i glywed am y gamp o bobsled paralympaidd cyn y Nadolig roedd ar yr awyren i Norwy - ac mae o nawr yn cystadlu'n rhyngwladol yn y gamp.
Bu'r gŵr o Danygrisiau, ger Blaenau Ffestiniog, yn adrodd ei hanes - sy'n debyg i'r ffilm Hollywood Cool Runnings - ar raglen Aled Hughes.
Ges i viral infection bedair blynedd yn ôl, a nes i golli iws o braich dde fi i gyd.
Roedd hwnna'n amser mwy caled nag ar ôl y ddamwain dweud gwir achos ro' ni wedi bod mor actif am 20 mlynedd ac wedyn mwyaf sydyn 'do'n i'n gwneud dim byd so ni'n styc yn tŷ, yn gorfod cael lot o help.
Doeddwn i methu pwsio'r gadair olwyn, neu brwsio gwallt na dim byd... roedd hwnnw reit galed ar y pryd felly be' nes i oedd meddwl am plan newydd achos doeddwn i methu gwneud y cartio ddim mwy achos roedd o'n rhy physical.
O'n i 'di gwneud yn dda ar y cartio am dros 10 mlynedd... mynd rownd Prydain i rasio ac oedd gen i fywyd newydd - a dweud gwir, hwnna wnaeth safio fy mywyd mewn ffordd.
Achos aeth hi reit ddrwg ar ôl y tair blynedd gynta' a meddwl be' fedra i neud rŵan? Nes i brynu beic cwad i gael mynd fyny i'r topia i fynd i sgota yn ôl efo'r hogia... ond roedd hwnnw jest dros yr haf felly dros y gaeaf roedd hi'n amser hir.
Darganfod y bobsled
Felly roedd y cartio yn cadw fi fynd, ac yn mynd at y 'Dolig... ac roedd o'n mynd a chdi allan i weld pobl eraill ac roedda ti'n teimlo wedyn bod chi'n ôl yn rhan o'r gymuned. Felly pan geshi'r viral infection yma roedd o fel 'be dwi am neud rŵan?'
O'n i'n ffrindiau efo dyn yma o America ar Facebook ac roedd o'n neud bobsleigh ei hun a doeddwn i ddim 'di clywed am para bobsleigh.
O'n i'n gwylio Ski Sunday a Winter Games, ond doeddwn i heb weld dim byd fel yma a dyma fo'n dweud "ti'n 'neud y cartio - mae o i gyd i wneud efo corneli a chofio be' i wneud felly fasa ti'n gwneud yn dda yn y parabobsleigh", felly nath o ddeud "tisho fi introducio chdi i mewn i'r sport?"
Bythefnos cyn 'Dolig, nes i gysylltu efo British Bobsleigh, ac efo'r International Bobsleigh Federation, cael y ffurflenni, medicals, impact tests ac ati i drio cael leisans a ges i un tri neu bedwar diwrnod cyn y flwyddyn newydd.
Wedyn roedd gen i ddau ddiwrnod i fwcio flight i fynd drosodd i Norwy i neud y World Cup.
Hefyd o ddiddordeb:
Yn lwcus roedd ysgol am bedwar diwrnod yna i chdi gael dysgu, felly ges i bedwar diwrnod o ddysgu ond roedda chdi'n cael tri run bob diwrnod.
Mae un run yn 40 eiliad, felly mewn ffordd 11 o funudau o experience o'n i 'di gael. Dyma nhw'n deud "ti'n 'neud reit dda fama", dweud gwir o'n i'n neud lot gwell nag oeddwn i wedi disgwyl 'de, achos o'n i yn y top 3 yn syth.
Ti'n gorfod neud track walk cyn mynd ar y bobsleigh, mynd lawr efo pobol yn dal chdi nôl efo rhaff a crampons a ti'n gweld faint o serth ydi'r waliau.
Maen nhw tua 12 troedfedd i fyny, a ti fod i hongian yno efo gravity yn neud 80mph, 'nath o godi ofn arna i.
Angen bod yn ddewr
Oedd y run gyntaf oedd o jest fatha "hold on!" - roedd o fel big dipper times ten.
Roedd o mor sydyn doedd gen ti ddim amser i wneud dim byd ond erbyn gwneud yr ail un roedda chdi wedi arfer, roedd dy lygaid di wedi arfer felly roedda chdi'n cael dipyn bach mwy o amser i feddwl.
Tisho lots o gyts in neud y gamp yma achos ti'n corneli mor sydyn.
Trafferth gyda'r cyfarpar
Yn y World Cup, ti'n cael tri diwrnod wedyn efo tri run bob dydd i ymarfer cyn y rasio.
Yn y ras ei hun, run gyntaf nath yr helmet mistio fyny felly doeddwn i ddim yn gweld llawer o ddim byd felly o'n i'n 14 allan o 20 o athletwyr.
Felly efo'r ail nes i roi fairy liquid tu mewn a llnau o... a ddes i mewn tua 10fed felly ro'n i tua 13 allan o 20 yn y rownd gyntaf.
Yn y diwedd, wedi'r holl runs, ddes i'n 12fed... ro'n i o flaen y boi wnaeth guro'r World Championship yna flwyddyn ddiwethaf a boi sydd ar y funud yn ail yn y World Cup felly o'n i'n gwneud rhywbeth yn iawn.
Mae bob un o'r athletwyr eraill yn byw mewn gwlad sydd efo eira a winter sport felly maen nhw'n gallu mynd i ymarfer a chael lot o track time.
Dwi'n jest gorfod mynd pan dwi'n gorfod mynd ond os ga' i bres tu ôl i fi yn barod at ddiwedd blwyddyn yma alla i fynd yn fwy aml i bractisio i Norwy neu'r Almaen neu Awstria... fasa gen i fwy o chance os wna i bractisho mwy ond mae o i gyd i wneud efo pres.
Nes i enjoio - roedd o'n anhygoel, roedd pawb arall yn 'neud o ers tair, pedair, pum mlynedd a fi oedd y new kid on the block a'r coaches yn deud "ti'n neud yn dda mae'r athletes eraill yn poeni braidd".