Synod Inn: Plismyn yn chwilio ardal ehangach
- Cyhoeddwyd
Dywed Heddlu Dyfed-Powys bod ganddyn nhw dystiolaeth sy'n awgrymu bod y dyn y maen nhw wedi bod yn chwilio amdano yn ardal Synod Inn yng Ngheredigion wedi gadael yr ardal.
Mae'r tîm ymchwilio bellach yn gweithio gyda lluoedd eraill i geisio dod o hyd i'r dyn.
Mae plismyn wedi bod yn chwilio am y dyn ers ddydd Sadwrn wedi ymosodiad ar blismon a stopiodd y car yr oedd yn teithio ynddo.
Cafodd y car ei stopio wedi i blismyn gael gwybodaeth fod y dyn yn gysylltiedig â gweithgaredd troseddol mewn ardaloedd eraill.
Ers y penwythnos mae plismyn wedi bod yn defnyddio hofrennydd ac unedau arbenigol i geisio dod o hyd i'r dyn ac mae swyddogion bellach wedi cael tystiolaeth sy'n awgrymu ei fod mewn ardal arall.
'Diolch i'r cyhoedd'
Mae ail ddyn a gafodd ei arestio yn dilyn y digwyddiad wedi cael ei gyhuddo.
Cafodd Wayne Dobson, sy'n 29 oed, ei gyhuddo o achosi niwed difrifol, difrod troseddol, difrodi cerbyd a mynd â cherbyd heb ganiatâd y perchennog.
Ar ran Heddlu Dyfed-Powys dywedodd y Prif Arolygydd Peter Roderick: "Mae hwn yn parhau i fod yn ymchwiliad hir a dwys sydd bellach yn cynnwys cydweithwyr o luoedd eraill wrth i ymdrechion gael eu canoli y tu allan i Ddyfed-Powys.
"Ry'n yn ymwybodol bod cryn bryder wedi bod yn ein cymunedau ers prynhawn Sadwrn diwethaf ac fe hoffwn ddiolch i'r cyhoedd am eu hamynedd wrth i'n gwaith barhau ar draws Ceredigion.
"Oherwydd natur yr ymchwiliad ry'n ni ddim wedi gallu rhyddhau llawer o fanylion am y dyn ry'n yn chwilio amdano ond ry'n wedi gwneud ein gorau i hysbysu cymunedau lleol o'r hyn sy'n digwydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2019