Agor ffordd osgoi newydd £95m yn Y Drenewydd yn swyddogol

  • Cyhoeddwyd
ffordd osgoi
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd 2.5 miliwn tunnell o bridd ei symud er mwyn adeiladu'r ffordd newydd

Mae ffordd osgoi newydd werth dros £95m wedi cael ei hagor yn swyddogol yn Y Drenewydd ddydd Iau.

Mae'r datblygiad, sydd i'r de o'r Drenewydd, tua 6.3km o hyd, gyda thair lôn ar gyfer goddiweddyd.

Cafodd y posibilrwydd o ffordd osgoi i'r dref ei drafod gyntaf yn 1949.

Fel un sy'n teithio i'r Drenewydd rhyw dair gwaith bob wythnos, mae John Rowlands o Drefeglwys yn rhoi croeso gofalus i'r ffordd newydd.

"'De ni bron ar Ffordd Newydd rŵan, mae'r bobl yma yn mynd i weld gwahaniaeth mawr achos bydd llai o draffig, sŵn a mwg i'r bobl sy'n byw yma," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae John Rowlands ofn yr effaith fydd y ffordd yn ei gael ar ganol y dref

"Os ydy loriau yn gallu mynd ar y bypass, bydd hynny yn gwneud gwahaniaeth mawr.

"Ond, yn y dref ei hun, dwi ofn. Dwi ofn y bydd pobl yn osgoi'r Drenewydd ac fe fydd siopau a chaffis y dre' yn colli allan. Dwi wir ofn hynny."

Prosiect 'heriol'

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y ffordd osgoi'n lleihau tagfeydd traffig yng nghanol y dref rhwng 40%-50%, a bydd hyn yn golygu amserau teithio llai yn yr ardal a mynediad gwell at swyddi a gwasanaethau.

Mae yna addewid y bydd yn gwella diogelwch drwy osgoi'r angen i gerbydau nwyddau mawr, trwm, uchel a cherbydau amaethyddol deithio drwy ardaloedd preswyl cyfagos.

Bu'n rhaid symud 2.5 miliwn tunnell o bridd er mwyn adeiladu'r ffordd.

Mae hynny'n cynnwys adeiladu 11 strwythur, gyda phedair tanffordd, tair pont a phedair is-bont.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rhodri Gibson bod gweithwyr wedi manteisio ar y tywydd braf llynedd

Mae wedi bod yn brosiect "heriol" a "mawr" i ganolbarth Cymru, meddai Rhodri Gibson, sy'n un o reolwyr y prosiect ar ran Llywodraeth Cymru.

"Mae maint y prosiect, a'r tirwedd yng nghanolbarth Cymru wedi gwneud y gwaith yn heriol.

"Yn y diwedd, ni wedi cyrraedd y sefyllfa o allu agor y ffordd cwpl o fisoedd yn gynnar.

"Ni wedi gwneud hynny drwy ffocysu ar gloddio yn y tywydd braf a gweithio oriau hirach dros yr haf.

"Bydd y brif ffordd yn agor heddiw, a bydd y gwaith rŵan yn parhau ar Pool Road neu'r A483, a thacluso ochrau'r ffyrdd dros y ddau fis nesaf."

Dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, bod y ffordd yn "enghraifft ardderchog o sut mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru a'r arian mae'n ei fuddsoddi'n sicrhau manteision ar gyfer trigolion canolbarth Cymru".