Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo ffordd osgoi'r Drenewydd

  • Cyhoeddwyd
Problemau traffig
Disgrifiad o’r llun,

Mae traffig wedi bod yn broblem ers tro yn y Drenewydd

Mae cynlluniau i adeiladu ffordd osgoi yn y Drenewydd wedi derbyn sêl bendith Llywodraeth Cymru.

Fe gymeradwyodd y Gweinidog Trafnidiaeth, Edwina Hart, y llwybr i'r de o'r dref ar ôl ystyried canfyddiadau ymchwiliad cyhoeddus.

Mae'n bosib i'r gwaith o adeiladu'r ffordd 3.4 milltir (5.8km) o hyd ddechrau cyn diwedd y flwyddyn.

Y disgwyl yw i'r gwaith gael ei gwblhau yn 2018.

Dywedodd Ms Hart y bydd trigolion lleol yn elwa o'r llwybr newydd.

"Fe fydd y ffordd osgoi'n gwella ansawdd bywyd pobl y Drenewydd ac yn gwella'r amseroedd teithio a diogelwch ar hyd yr A483, yr A489 a'r ffyrdd lleol o fewn y dref," meddai.

"Mae'r prosiect hwn yn enghraifft arall o'n buddsoddiad ni yn y rhwydwaith cefnffyrdd, sy'n ei gwneud yn haws i bobl gyrraedd gwaith a gwasanaethau ac yn gwella'r cysylltiadau trafnidiaeth rhwng y de a'r gogledd a'r canolbarth a gorllewin canolbarth Lloegr."