'Amhosib i'r trefnwyr wneud mwy i atal marwolaeth'
- Cyhoeddwyd
Mae perchennog fferm ger Llanrwst lle bu farw bachgen 16 oed ar ôl cymryd cyffuriau mewn rêf wedi dweud nad yw'n credu y gallai'r trefnwyr fod wedi gwneud mwy i osgoi'r farwolaeth.
Clywodd cwest ddydd Gwener bod Morgan Miller-Smith o Gonwy wedi marw ar ôl cymryd dwy dabled ecstasi 'Bit Coins' yn ystod Gŵyl HP mewn ysgubor ar y fferm ym mhentref Gwytherin.
Dywedodd Arwel Prysor Williams wrth y gwrandawiad yn Rhuthun fod yr achos wedi effeithio gymaint arno a'i wraig nes "fyddan ni byth yn cynnal digwyddiadau fel hyn eto" ar eu fferm.
"Dydw i ddim wir yn siŵr be' fydden ni'n newid petawn ni am gynnal [dawns] arall," meddai wrth y crwner, John Gittin.
Clywodd y cwest bod Mr a Mrs Williams wedi dechrau cynnal nifer fach o ddigwyddiadau gwahanol ar y fferm bob blwyddyn er mwyn creu ffynonellau incwm newydd i'r busnes.
Dywedodd Mr Williams ei fod yn cymryd amodau'r drwydded i gynnal digwyddiadau o'r fath o ddifrif, ac yn chwarae rhan ymarferol yn y trefniadau.
Breuddwydion o fynd i Efrog Newydd
Mewn datganiadau a gafodd eu darllen gan y crwner, fe fynegodd rhieni Morgan sioc fod eu mab wedi cymryd cyffuriau.
"Roedd wastad wedi bod mor gall," meddai Deborah Gould. "Fyddwn i byth wedi meddwl y byddai wedi cymryd dim byd."
Dywedodd ei dad, Brian Miller bod Morgan yn breuddwydio am weithio ar y farchnad stoc yn Efrog Newydd ar ôl astudio Mathemateg ac Astudiaethau Busnes yn Ysgol Aberconwy, a'i fod "wastad yn llafar iawn" ynghylch peryglon cymryd cyffuriau.
Ond mewn datganiadau i'r heddlu, dywedodd ei frawd a nifer o ffrindiau oedd yn y rêf bod Morgan wedi mynd â dwy dabled 'Bit Coin' i'r fferm ac wedi cymryd ecstasi mewn rêf arall yn y gorffennol.
Fe lewygodd ar ddiwedd y digwyddiad wrth ddal bws adref, ac roedd y parafeddygon oedd yn bresennol wedi ymateb yn gyflym iawn.
Cafodd drawiad ar y galon wrth gael ei gludo mewn ambiwlans i Ysbyty Glan Clwyd. Ofer oedd ymdrechion i'w adfer yno a bu farw'r bore canlynol.
Dywedodd y crwner bod hi'n "hollol amhriodol" i ddweud o le ddaeth y cyffuriau gan fod neb wedi ei gyhuddo o unrhyw drosedd wedi'r farwolaeth.
Camau diogelu'r cyhoedd
Roedd bandiau lliw gwahanol yn cael eu rhoi i bobl dan 18 oed i'w hatal rhag prynu alcohol, ac roedd camau i atal pobl rhag cyfnewid bandiau ar ôl cyrraedd.
Roedd yna bolisi i wahardd cyffuriau'n llwyr a phenderfyniad ar y cyd â'r trefnwyr i archwilio pawb wrth gyrraedd.
Fe drefnwyd i gael ambiwlans preifat a pharafeddygon ar y safle, er nad oedd gofyn statudol iddyn nhw wneud hynny.
Roedd yna ardal ddiogel i bobl allu gadael y ddawns pe bai angen, a modd i bobl roi cyffuriau mewn blwch 'gonestrwydd' heb orfod wynebu cwestiynau.
Dywedodd Mr Williams mewn ymateb i gwestiwn gan dad Morgan, Mr Miller, bod yr awdurdodau'n gwybod wrth drwyddedu'r digwyddiad bod y prif drefnwyr, Holly Profit ac Elizabeth Pepper ond yn 19 oed.
Ym marn Mr Williams, roedd ymddygiad y ddwy yn broffesiynol iawn, ond bod yntau hefyd yn cymeradwyo pob cam.
Mae disgwyl i'r cwest ddod i ben ddydd Llun.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2017