Ffordd i ailagor wedi tirlithriad laddodd dyn ifanc
- Cyhoeddwyd
Bydd ffordd yn Sir Gaerfyrddin yn ailagor yn rhannol fis nesaf, bum mis wedi i dirlithriad achosi marwolaeth dyn ifanc yn ystod storm.
Yn ôl Cyngor Sir Gâr, bydd un lôn ar ffordd yr A484 yng Nghwmduad yn ailagor ar 18 Mawrth.
Bu farw Corey Sharpling, 21 oed o Gastell Newydd Emlyn, ar ôl iddo ddod allan o fws pan wnaeth coeden syrthio ar draws y ffordd.
Dywedodd y cyngor fod y gwaith atgyweirio wedi bod yn drylwyr a chymhleth.
Ers marwolaeth Mr Sharpling, mae'r traffig yn yr ardal wedi'i ddargyfeirio.
Gyda ffyrdd gwledig cyfagos wedi bod yn brysurach na'r arfer yn sgil cau'r ffordd, mae pryder yn lleol fod cyflwr y rheiny wedi dirywio'n arw yn ystod y misoedd diwethaf.
Mae'r traffig trwy bentref Hermon wedi cynyddu'n sylweddol, yn ôl y cynghorydd cymuned Elfed Davies.
Ond mae'n pwysleisio mai mater bach yw hynny o'i gymharu â'r ddamwain drasig arweiniodd at deulu i golli gŵr ifanc 21 oed.
Dywedodd Michelle Evans, sy'n byw tua hanner milltir o safle'r digwyddiad y llynedd, ei bod hithau hefyd yn poeni am gyflwr y ffyrdd ac effaith hynny'n lleol.
"Mae 'na dafarn leol, garej, gwely a brecwast sydd wedi cael eu heffeithio gan y ffordd yn cau - a'r rheiny i gyd wedi colli swm sylweddol o arian dros y misoedd diwethaf," meddai Ms Evans.
"Rwy'n siŵr y bydden nhw'n croesawu'r ffordd yn ailagor."
Dywedodd Cyngor Sir Gâr mai diogelwch y cyhoedd yw eu blaenoriaeth wrth iddyn nhw anelu i ailagor ffordd yr A484 yn rhannol fis nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2018