100 o docynnau rygbi wedi'u canslo gan Undeb Rygbi Cymru

  • Cyhoeddwyd
Stadiwm PrincipalityFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Cymru yn herio Lloegr yn Stadiwm Principality yn y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi canslo 100 o docynnau gafodd eu gwerthu yn answyddogol cyn y gêm rhwng Cymru a Lloegr ddydd Sadwrn.

Dywedodd llefarydd ar ran URC fod clwb rygbi wedi bod yn cydweithio â darparwyr lletygarwch answyddogol i werthu tocynnau i gwsmeriaid oedd wedi cael eu cyflwyno i'r clwb gan y cwmni.

Cafodd cwmni VU - sy'n cael ei redeg gan gyn-chwaraewr rhyngwladol Lloegr, Victor Ubogu - orchymyn gan yr Uchel Lys yn 2017 gyda thelerau ac amodau am werthu tocynnau i gemau rygbi.

Doedd y llefarydd ddim yn fodlon datgelu enw'r clwb wrth BBC Cymru Fyw.

Dylai tocynnau ond gael eu gwerthu ymlaen gan gwmnïau awdurdodedig a ni ddylai unrhyw docynnau sy'n cael eu gwerthu i glybiau fod uwchben y pris gwreiddiol.

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran VU Ltd: "Nid ydyn ni wedi gwneud unrhyw beth o'i le. Rydym wedi cydymffurfio gyda'r gorchymyn llys a'r telerau ac amodau."

Mae URC yn dweud y dylai cefnogwyr sy'n poeni am ddilysrwydd eu tocynnau gysylltu a'r undeb drwy e-bostio unofficialticketing@wru.wales