Dirwy o £100 i bobl sy'n gwrthod ailgylchu yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Gweithwyr cyngor
Disgrifiad o’r llun,

Mae swyddogion y cyngor wedi dechrau archwilio bagiau gwastraff ar y stryd

Gall drigolion Abertawe wynebu dirwy o £100 os ydyn nhw'n gwrthod ailgylchu.

Bydd swyddogion yn gallu archwilio bagiau gwastraff ar y stryd er mwyn sicrhau nad oes deunydd sydd modd ei ailgylchu yn mynd i'r domen.

Bydd timau yn ysgwyd bagiau bin ac yn gwrando allan am eitemau mae modd eu hailgylchu, fel gwydr neu fetel.

Bwriad y cyngor ydy gwella cyfraddau ailgylchu yn y sir.

'Newid ymddygiad'

Dywedodd Pennaeth Rheoli Gwastraff Cyngor Abertawe, Chris Howell, fod y cynlluniau yno i daclo'r "nifer fechan" o bobl sy'n parhau i wrthod ailgylchu.

"Mae pedwar allan o bump o bobl yn ailgylchu'n dda," meddai.

"Ond mae angen i'r un allan o bump arall yna newid eu hymddygiad gartref, a'u cael nhw i ailgylchu.

"Mae ymchwil gan Lywodraeth Cymru o ran beth sydd y tu fewn i fagiau bin du yn dangos fod modd ailgylchu hanner o'r hyn sy'n cael ei daflu, gyda chwarter ohono'n wastraff bwyd."

Ychwanegodd Mr Howell fod Cyngor Abertawe wedi penderfynu peidio dilyn arweiniad cynghorau eraill sydd wedi lleihau'r nifer o weithiau maen nhw'n casglu biniau du, gan nad ydyn nhw eisiau effeithio'r rheiny sy'n ailgylchu'n iawn.

Mae targed ailgylchu Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn 58%, ac mae disgwyl iddo gynyddu i 64% erbyn diwedd Ebrill.

Mae cynghorau sy'n methu â chyrraedd y targed yn wynebu dirwy o £200 am bob tunnell o wastraff dros ben.

'Ysgogi ailgylchu'

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod Cyngor Abertawe yn dilyn symudiad gan awdurdodau lleol ar draws Cymru i geisio cyrraedd y targed.

"Mae llywodraethau lleol wedi bod yn llwyddiannus iawn yn eu hymgais i gynyddu lefelau ailgylchu, gyda thrigolion yn cymryd rhan yn hynny, mae ychwanegu canrannau bychain yn ei gwneud hi ychydig yn anoddach i lwyddo.

"Mae ymchwil o wastraff sy'n cyrraedd y domen yn dangos fod bron i hanner y sbwriel yn nwyddau mae modd eu hailgylchu.

"Mae ysgogi mwy o drigolion i wneud yn siŵr fod trigolion sydd eisoes yn ailgylchu yn gosod popeth posib yn eu casgliad ailgylchu yn helpu'r ymdrech i gyrraedd y targed."

Mae Cyngor Abertawe wedi cadarnhau mai'r cam olaf un fydd dirwyo trigolion sydd ddim yn ailgylchu.