Ofcom: Nation Radio yn disodli Radio Ceredigion

  • Cyhoeddwyd
Gorsaf Radio

Mi fydd Radio Ceredigion yn cau yn dilyn penderfyniad gan Ofcom i ganiatáu newidiadau i'r drwydded.

Roedd cais gan y perchnogion, Nation Broadcasting, wedi gofyn i ddarlledu Nation Radio ar y tonfeddi yn ei lle.

Er i Ofcom gymeradwyo'r cais, dywedodd mewn datganiad bod diffyg rhaglenni Cymraeg ar y gwasanaeth newydd yn destun pryder.

Dwedodd pennaeth Nation Broadcasting ei fod yn hapus iawn i allu parhau i gynnal gorsaf fasnachol yng Ngheredigion.

Yn gynharach eleni dywedodd perchnogion Radio Ceredigion eu bod yn bwriadu gwneud cais i ddarlledu Nation Radio ar donfeddi Radio Ceredigion yn y dyfodol.

Mae Nation Radio yn orsaf uniaith Saesneg sy'n bodoli yn barod ar donfeddi FM yng Nghaerdydd ac Abertawe, ac ar donfeddi digidol yn y de a'r gogledd.

Fe wnaeth y rheolwyr benderfynu gadael i'r drwydded bresennol ddod i ben, gan greu cystadleuaeth ar gyfer y drwydded i ddarlledu ar donfeddi Radio Ceredigion yn y dyfodol.

Ond doedd neb arall am gystadlu am y drwydded, felly mae Ofcom wedi gorfod gwneud penderfyniad naill ai i dderbyn cais Nation Broadcasting i newid yr orsaf, neu gwrthod y cais gan wybod nad oes neb arall eisiau bachu'r tonfeddi.

Wrth gyhoeddi'r penderfyniad, dwedodd Ofcom bod cais Nation Broadcasting "wedi darparu prin ddim tystiolaeth i ddangos y byddai ei gynnig i ddarparu'r gwasanaeth Nation Radio yn bodloni chwaethau a diddordebau gwrandawyr yn ardal Ceredigion".

"Roedd y diffyg ymrwymiad i ddarparu unrhyw gynnwys lleol a phenodol i Geredigion ar gyfer cyfnod y drwydded newydd, a'r ffaith bod y ddyletswydd i ddarparu cynnwys yn y Gymraeg wedi cael ei ddileu mewn ardal sydd â chyfran gymharol uchel o siaradwyr Cymraeg, yn cyfrannu at y safbwynt hwn."

Yn hanesyddol roedd Radio Ceredigion yn cael ei adnabod fel gorsaf ddwyieithog, ac yn un lle mae nifer o ddarlledwyr Cymraeg wedi dechrau ar eu gyrfaoedd.

'Diffyg rhaglenni Cymraeg yn bryder'

Ond mae gwahanol berchnogion wedi cael caniatâd y rheoleiddiwr i ostwng yr oriau o Gymraeg oedd angen eu darlledu yn ôl y drwydded, ac i dorri nôl ar nifer y caneuon Cymraeg oedd yn cael eu chwarae.

Erbyn hyn, dim ond awr o raglen ar nos Sul sydd yn Gymraeg. Ac mae nifer helaeth o raglenni Saesneg yr orsaf yn cael eu rhannu gyda gorsafoedd eraill dan berchnogaeth Nation Broadcasting, gan gynnwys Radio Carmarthenshire, Radio Pembrokeshire, a Bridge FM ym Mhen y Bont ar Ogwr.

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, 15,000 o bobl sydd yn gwrando ar Radio Ceredigion bob wythnos, ac mae 79,000 o bobl yn byw yn yr ardal sy'n derbyn y donfedd.

Mae ymgyrchwyr gan gynnwys Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu'r sefyllfa, fydd yn golygu y bydd yr iaith Gymraeg yn diflannu o donfeddi Radio Ceredigion.

Yn ystod y broses o gyflwyno'r cais mae Nation Broadcasting wedi dweud ei fod wedi "dilyn camau Ofcom" yn gywir fel rhan o'i ymgais i "barhau i ddarlledu ar draws Ceredigion".

Mewn datganiad yn dilyn cyhoeddiad Ofcom, dwedodd rheolwr gyfarwyddwr Nation Broadcasting, Martin Mumford:

"Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw gan Ofcom rydym yn hapus iawn ein bod yn mynd i allu parhau i ddarparu gorsaf radio masnachol yn ardal Ceredigion fel rhan o'n grŵp o orsafoedd radio masnachol lleol, rhanbarthol a chenedlaethol yng Nghymru."