Awyren Emiliano Sala wedi'i chanfod â 'difrod sylweddol'

  • Cyhoeddwyd
Emiliano Sala a David IbbotsonFfynhonnell y llun, Getty Images/David Ibbotson
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond Emiliano Sala a David Ibbotson oedd ar yr awyren ar y pryd

Cafodd yr awyren oedd yn cario Emiliano Sala ei chanfod wedi'i "difrodi'n sylweddol" ar wely'r môr, yn ôl y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr (AAIB).

Aeth yr awyren ar goll wrth deithio rhwng Nantes yn Ffrainc i Gaerdydd ar 21 Ionawr.

Cafodd corff ymosodwr Caerdydd ei godi o weddillion yr awyren yn dilyn gwaith chwilio preifat, ond mae'r peilot David Ibbotson yn parhau ar goll.

Dywedodd yr AAIB bod yr awyren wedi cael ei chanfod mewn tri darn, wedi'i dal â'i gilydd gyda cheblau yn unig, a'r injan wedi datgysylltu o'i safle.

Dywedodd Clwb Pêl-droed Caerdydd bod ganddynt "bryderon difrifol bod cwestiynau'n parhau".

Dim trwydded fasnachol

Daeth yr adroddiad i'r casgliad hefyd nad oedd unrhyw un wedi gwneud cais i allu defnyddio'r awyren fel un fasnachol.

Ychwanegodd mai trwydded breifat oedd gan Mr Ibbotson, ac nad oedd ganddo'r hawl i dderbyn tâl llawn am gario teithwyr.

Ond pe bai'n gwneud y daith beth bynnag, byddai'r hawl ganddo i gario teithwyr os mai'r peilot fyddai'n talu o leiaf hanner cost y daith.

Mae'r adroddiad yn cyfaddef nad yw'n glir eto ar ba dermau roedd Mr Ibbotson yn hedfan Sala i Gaerdydd.

Awyren SalaFfynhonnell y llun, AAIB
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr AAIB bod yr awyren wedi cael ei chanfod mewn tri darn

Roedd yr awyren Piper Malibu yn cludo ymosodwr newydd CPD Caerdydd i'r brifddinas ar ôl iddo deithio 'nôl i Nantes er mwyn ffarwelio gyda'r clwb.

Fe wnaeth Caerdydd gytuno i dalu £15m i arwyddo'r Archentwr - y ffi uchaf erioed i'r clwb dalu am chwaraewr.

'Angen ymchwil pellach'

Daeth yr ymgyrch chwilio swyddogol i ben ar 24 Ionawr ar ôl i harbwr feistr Guernsey ddatgan ei bod hi'n "annhebygol iawn" byddai unrhyw un yn cael eu canfod yn fyw.

Ailddechreuodd y gwaith chwilio yn breifat ar ôl i ymgyrch codi arian gasglu dros €320,000, ac fe gafodd gweddillion yr awyren eu darganfod oriau yn ddiweddarach.

Mae'r ymgyrch i geisio canfod Mr Ibbotson - sydd bellach wedi codi £243,000 - yn parhau.

Galarwyr yn cymeradwyo'r archFfynhonnell y llun, AFP TV
Disgrifiad o’r llun,

Roedd dros 3,000 o bobl yn bresennol yn angladd y pêl-droediwr yn Yr Ariannin

Dywedodd yr AAIB, sy'n parhau i ymchwilio i'r digwyddiad, y byddan nhw yn cyhoeddi adroddiad llawn maes o law.

Yn ôl y gangen mae angen gwneud ymchwil pellach i nifer o elfennau, gan gynnwys cyflwr yr awyren a thrwyddedau'r peilot.

Byddan nhw hefyd yn cynnal rhagor o ymchwil i geisio deall beth yn union ddigwyddodd yn y munudau cyn i'r awyren daro'r dŵr i geisio dod o hyd i achos y ddamwain.

Ychwanegodd y bydd ymchwil hefyd ar "effaith bosib yr amgylchiadau tywydd yn yr ardal ar amser y ddamwain".

Mae'r adroddiad yn dweud nad oes ganddyn nhw wybodaeth ar faint o hedfan roedd Mr Ibbotson wedi'i wneud yn ddiweddar gan fod y wybodaeth hynny wedi'i golli yn y ddamwain.

Ond maen nhw wedi gallu cadarnhau bod y peilot wedi hedfan am gyfanswm o thua 3,700 awr, a'i fod â thrwyddedau preifat yn y DU a'r Unol Daleithiau.

Cwestiynau'n parhau

Mewn datganiad, dywedodd Clwb Pêl-droed Caerdydd bod ganddynt "bryderon difrifol bod cwestiynau'n parhau ynglŷn â dilysrwydd trwydded y peilot a'i statws i wneud siwrne o'r fath".

Ychwanegodd eu bod yn pryderu am ddefnydd o awyren oedd ddim yn cydymffurfio â gofynion awdurdod hedfan sifil Prydain na'r Unol Daleithiau am weithgaredd masnachol, ac y gallai fod yn "gweithredu'n anghyfreithlon".

Yn ôl y datganiad mae'r clwb yn "croesawu" ymchwiliad pellach i'r digwyddiad.