Cyhoeddi papur bro diweddaraf Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi

  • Cyhoeddwyd
Gwefan Pobl Y Fenni

Mae papur bro diweddaraf Cymru yn cael ei gyhoeddi am y tro cyntaf ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Papur digidol yw 'Pobl Y Fenni', a dyma'r tro cyntaf i'r dre gael ei phapur bro ei hun.

Mae'n ffrwyth cydweithio rhwng criw o wirfoddolwyr lleol a Phrifysgol Caerdydd, a ddechreuodd pan gafodd Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy 2016 ei chynnal yn y dref.

"Nawr ni'n datblygu fe i fod yn gyfrwng rhoi newyddion lleol iawn i bobl sy'n siarad Cymraeg yn y Fenni", meddai Eirwen Williams, sy'n un o bump aelod o fwrdd golygyddol y papur.

Denu'r di-Gymraeg hefyd

"'Dan ni'n gobeithio bydd y wefan yn fan canolog i sicrhau bod y wybodaeth ddiweddara' am bethau Cymaeg yn cael eu cyhoeddi yn syth, ond hefyd bod pethau sy'n digwydd yn yr ardal trwy gyfrwng y Saesneg yn cael sylw ganddon ni trwy gyfrwng y Gymraeg," meddai aelod arall o'r bwrdd golygyddol, Mererid Lewis-Davies.

"Gobeithio wedyn bydd y gynulleidfa ddi-Gymraeg neu'r rheini sy'n dysgu Cymraeg yn dod at y wefan, yn gweld y stori, a gweld bod y stori yn Gymraeg... a gobeithio, Cymraeg sy'n ddealladwy ac yn glir ac yn syml i bobl allu deall."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Eirwen Williams (chwith) a Mererid Lewis-Davies ymhlith aelodau bwrdd golygyddol Pobl Y Fenni

Mae cyfarwyddwr newyddiaduriaeth cymunedol Prifysgol Caerdydd, Emma Meese, wedi bod yn rhoi cymorth i'r gwirfoddolwyr yn Y Fenni.

"Fi wedi bod yn dysgu sgiliau newyddiadurol, sgiliau y we, a sut i redeg darpariaeth newyddion digidol." meddai.

"Mae hwn yn rhywbeth hollol newydd iddyn nhw, ac i'r ardal, a ni wedi bod yn cael lot o hwyl yn dod at ein gilydd yn meddwl beth yw'r newyddion lleol, beth fyddai'n bwysig i bobl yn yr ardal, a beth yw'r ffordd orau i gael y newyddion Cymraeg at bobl Y Fenni."

Diweddaru'n gyson

Ymhlith y straeon cyntaf i gael sylw 'Pobl Y Fenni' mae ymweliad rhaglen BBC Cymru, 'Pawb a'i Farn' â'r dref cyn bo hir, hanes taith ddiweddar Cymdeithas Edward Llwyd yn lleol, a rysait.

Mae'r tîm golygyddol yn gobeithio manteisio ar y ffaith mai papur digidol yw e, a'i ddiweddaru'n gyson.

"I ddechrau ry'n ni'n mynd i anelu i roi tair stori bob wythnos", meddai Eirwen Williams, "ond wrth gwrs os yw rhywbeth yn codi'n sydyn, ac ry'n ni eisiau cael y wybodaeth allan i'r gynulleidfa, mae modd gwneud hynny yn gyflym iawn."

Mae'r papur i'w weld ar www.poblyfenni.cymru