Atgyweirio hen sinema art deco'r Plaza ym Mhort Talbot
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau ar waith i droi hen sinema art deco wag yng nghanol tref Port Talbot yn ganolfan celf a diwylliant.
Cafodd y Plaza ei gau yn 1999, ac mae'r sinema lle bu Richard Burton a Syr Anthony Hopkins yn gwylio ffilmiau wedi bod yn wag ers hynny.
Y bwriad yw gadael i'r YMCA redeg y ganolfan arfaethedig.
Dywedodd pennaeth adfywio Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Simon Brennan y bydd yr adeilad yn rhywbeth i Bort Talbot fod yn "falch" ohoni.
Cafodd y sinema ei rhestru fel adeilad Gradd II yn 1999, gan ei fod yn enghraifft brin o bensaernïaeth sinema o'r 1930au ac am fod nifer o'r elfennau gwreiddiol yn dal i fod tu fewn i'r adeilad.
'Hwb i'r ardal'
Prynodd y cyngor yr adeilad gwag yn 2009 gyda'r bwriad o'i ddiogelu a'i ddatblygu.
Cafodd cynghorwyr lleol wybod ei bod yn bosib i'r ganolfan newydd agor yn 2020, gyda chefnogaeth ariannol o £5.5m gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Mr Brennan fod y prosiect yn "datblygu'n dda iawn".
"Rydym yn gobeithio y bydd yr adeilad terfynol yn rhywbeth fydd nid yn unig yn hwb i'r ardal ond yn rhywbeth all Port Talbot fod yn falch ohono, gyda'r dreftadaeth sy'n perthyn i'r sinema hefyd," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2017