Angen 20,000 yn fwy o ofalwyr yng Nghymru erbyn 2030

  • Cyhoeddwyd
GofalFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae ymgyrch wedi ei lansio i recriwtio 20,000 o weithwyr gofal ychwanegol yng Nghymru dros y degawd nesaf.

Daw'r galw yn bennaf oherwydd bod canran y bobl hŷn yn y boblogaeth yn cynyddu, a bod gan Gymru ganran uwch o weithwyr hŷn.

Mae'r swyddi dan sylw'n cynnwys nyrsys a gweithwyr gofal mewn cartrefi preswyl ac yng nghartrefi preifat unigolion.

Nod arall ymgyrch Gofalwn.Cymru, dolen allanol yw cynyddu dealltwriaeth y cyhoedd am yr hyn sydd ynghlwm â gwaith gofal.

Mae disgwyl i nifer y bobl dros 80 oed gynyddu 44% yng Nghymru erbyn 2030.

Ar hyn o bryd mae tua 113,000 o bobl yn gweithio yn y sector gofal, a bydd angen i'r nifer gynyddu.

Ffynhonnell y llun, ONS
Disgrifiad o’r llun,

Damcaniaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol o boblogaeth pobl 80 oed a hŷn yng Nghymru

Mae yna dybiaeth ymhlith y cyhoedd fod y math yma o waith yn talu cyflogau isel ac yn waith sy'n golygu llawer o bwysau.

Dywedodd Gofal Cymdeithasol Cymru - y corff sy'n gyfrifol am reoleiddio a datblygu'r gweithlu - eu bod am ddangos fod y swyddi yn "amhrisiadwy o ran ein bywydau pob dydd" gyda'r gobaith y bydd pobl yn eu gwerthfawrogi'n fwy.

Dywedodd Sue Evans, prif weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru: "Mae cytundebau ac amodau yn amlwg yn ffactor.

"Un o'r pethau rydym wedi ei ddysgu o'r gwaith ymchwil yw unwaith rydych yn rhan o'r sector, fod pobl yn ei weld yn yrfa gwerth chweil ac yn aros oherwydd y gwerthoedd mae'n ei roi, gan helpu pobl eraill i fwynhau bywyd gwell.

"Ni allwn gystadlu â diwydiannau eraill o ran cyflogau ond mae yna ddiffyg dealltwriaeth o ran ein gwaith. Mae rhan bwysig o'r ymgyrch yn ymwneud â gwella dealltwriaeth."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Tracey Martin-Smith yn rhoi cymorth i bobl fyw yn fwy annibynnol

Mae Tracey Martin-Smith, yn gweithio gyda phobl ddall o bob oedran yn ardal Hwlffordd gan eu helpu gyda sgiliau a mynd o le i le.

Dywedodd ei bod yn cael boddhad o weld sut mae safon bywyd pobl yn gwella.

"O ddydd i ddydd rwy'n gweithio gyda phobl o wahanol oedrannau, o fabanod i oedolion," meddai.

"Mae'r person hynaf rwy'n gweithio gydag ef yn 105. Rwy'n hoffi gweithio gyda phobl ac yn cael budd mawr."

Dywedodd Ms Evans fod yna ystod eang o wahanol swyddi, yn amrywio o waith yn y rheng flaen i helpu gyda dod o hyd i gartrefi, therapi galwedigaethol a rheoli cyllidebau.

Yn ogystal â gweithio gydag oedolion, mae yna alw hefyd am swyddi ym maes gofal plant wrth i Lywodraeth Cymru ehangu'r polisi o roi 30 awr o ofal di-dâl i blant ifanc.

Y bwriad yw hysbysebu'r gwanhaol swyddi fydd eu hangen ar wefan Gofalwn.Cymru.