Merched Cymru 0-0 Merched Gweriniaeth Iwerddon
- Cyhoeddwyd

Cafodd Natasha Harding gyfle yn y munudau olaf i sicrhau'r fuddugoliaeth i Gymru
Fe wnaeth tîm pêl-droed merched Cymru sicrhau gêm gyfartal yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon mewn gêm gyfeillgar ym Marbella brynhawn Iau.
Katie McCabe oedd â'r cyfle gorau i'r Gwyddelod, ond Cymru gafodd y cyfleoedd gorau fel arall.
Fe wnaeth Marie Hourihan arbed yn wych o ergyd Kayleigh Green tra bod ymdrech Angharad James wedi'i chlirio oddi ar y llinell gôl.
Y postyn wnaeth atal Helen Ward, tra cod Natasha Harding wedi cael cyfle hwyr i sicrhau'r fuddugoliaeth i dîm Jayne Ludlow.
Bydd y ddau dîm yn herio ei gilydd eto ym Marbella ar 5 Mawrth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2019