Naw o gynghorwyr yn Sir Gâr yn gadael y Blaid Lafur
- Cyhoeddwyd
Mae naw o gynghorwyr sir a chymuned yn Sir Gâr wedi gadael y Blaid Lafur i fod yn gynghorwyr annibynnol gan ddweud eu bod yn anfodlon gydag arweinyddiaeth y grŵp Llafur o fewn y cyngor sir.
Yn ôl datganiad ar ran y cynghorwyr, "mae'r arweinyddiaeth bresennol yn mabwysiadu tactegau bwlio ac aflonyddu i 'chwipio' aelodau, ynghyd ag ymarferion eraill na allen ni dderbyn neu oddef".
Mae'r llefarydd ar eu rhan, y Cynghorydd Jeff Edmunds yn rhybuddio ei fod yn credu bod mwy yn ystyried gadael y blaid.
Dywedodd arweinydd presennol y grŵp Llafur, y Cynghorydd Rob James ei fod yn "siomedig bod cyn-arweinydd y grŵp wedi dewis bod yn gymeriad cynhennus yn y grŵp ers colli ei arweinyddiaeth ac wedi penderfynu pwdu a gadael".
O ganlyniad i'r ymddiswyddiadau, bydd nifer aelodau'r grŵp Llafur ar Gyngor Sir Gâr - sy'n cael ei redeg gan glymblaid o aelodau Plaid Cymru ac annibynnol - yn gostwng o 23 i 18.
Bydd y blaid hefyd yn colli'i gafael ar Gyngor Tref Llanelli "am y tro cyntaf... mewn degawdau".
Mae hynny, medd y datganiad, yn arwydd posib "bod cadarnle mawr olaf Llafur yn Sir Gaerfyrddin dan fygythiad o golli cefnogaeth" aelodau cyffredin.
'Agwedd ni a nhw'
Dywedodd y Cynghorydd Edmunds - cyn-arweinydd grŵp Llafur Cyngor Sir Gâr: "Gyda gofid a chalon drom rydym wedi penderfynu gadael y Blaid Lafur a dod yn gynghorwyr annibynnol."
Maen nhw'n cyhuddo'r arweinyddiaeth bresennol o greu "diwylliant o 'rannu a choncro' o fewn y grŵp, yn lle un o gytgord ac undod", a bod "unigolion penodol" wedi wfftio cais am ymchwiliad i'r sefyllfa y llynedd.
"Fel aelodau a chefnogwyr tymor hir o'r Blaid Lafur, rydym yn cael ein gwneud i deimlo nad ydyn ni'n perthyn... mae'n gwbl amlwg bod agwedd 'ni a nhw' wedi cael ffynnu dan yr aweinyddiaeth yma."
"Mae'n warthus a chwbl annerbyniol sut mae rhai cynghorwyr Llafur wedi cael eu trin gan yr arweinyddiaeth bresennol a'r blerwch sydd wedi ei amlygu."
Dywedodd y Cynghorydd James, yr arweinydd presennol yn ei ddatganiad: "Gwasanaethu'r cymunedau a bleidleisiodd dros yr unigolyn sydd wrth wraidd gwleidyddiaeth, nid buddiannau ariannol personol.
"Fe bleidleisiodd trigolion am gynghorwyr Llafur yn yr etholaethau yma, ac mae hi ond yn gywir bod y rhai sydd wedi gadael y blaid yn rhoi eu hunain ymlaen ar gyfer etholiad."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2019