Carchar am 16 mlynedd am ddechrau tân yn Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
Damion HarrisFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Damion Harris gyfaddef dynladdiad, llosgi bwriadol ac achosi niwed corfforol difrifol

Mae dyn o Geredigion wedi cael ei ddedfrydu i 16 mlynedd o garchar am gynnau tân mewn gwesty a laddodd dyn o Lithwania.

Fe wnaeth Damion Harris, 31 oed o Lanbadarn, gyfaddef dynladdiad, llosgi bwriadol ac achosi niwed corfforol difrifol wedi'r tân yng Ngwesty Tŷ Belgrave yn Aberystwyth.

Cafodd Harris ei ddedfrydu i 16 mlynedd dan glo, a bydd yn treulio pum mlynedd arall ar drwydded.

Clywodd Llys y Goron Abertawe iddo ddechrau'r tân yn fwriadol drwy losgi llenni a chwpwrdd dillad.

'Milain'

Dywedodd y Barnwr Paul Thomas bod Harris wedi mynd i'r gwesty gydag "amcanion maleisus".

"Roeddet wedi cynnau nid un, ond dau dân," meddai. "Wedi i ti gynnau'r tân, fe symudaist y diffoddwr tân. Roedd hynny, Mr Harris, yn beth milain i wneud."

Ffynhonnell y llun, Keith Morris
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd 15 o westai i ddianc o'r tân yn Nhŷ Belgrave

Llwyddodd 15 o westai i ddianc o'r adeilad, ond cafodd Juozas Tunaitis o Lithwania ei ladd yn ystod y tân ar 25 Gorffennaf y llynedd.

Mewn datganiad cafodd ei ddarllen yn y llys, dywedodd mam Mr Tunaitis, Kazimieros Tunaitienes, nad oedd wedi gallu cysgu ers "marwolaeth drasig" ei mab.

Roedd ei mab yn ei chefnogi'n ariannol drwy anfon arian yn ôl i Lithwania.

Ysgrifennodd: "Rwy'n ei weld yn fy mreuddwydion. Dydw i ddim yn gwybod sut i barhau gyda 'mywyd."

Ffynhonnell y llun, CPS
Disgrifiad o’r llun,

Yn sgil y difrod i'r adeilad, ni chafodd corff Juozas Tunaitis ei ddarganfod tan ddeufis wedi'r tân

Cafodd Richard Simnett, gwestai arall ei "anafu'n ddifrifol" pan syrthiodd 35 troedfedd o do'r gwesty wrth drio achub ei deulu.

Roedd Mr Simnett yn aros yno gyda'i bartner a'u plant ifanc, a dywedodd ei fod yn lwcus i fod yn fyw, ond ei fod yn dal i ddioddef poenau cyson yn sgil ei anafiadau.

Yn ei ddatganiad yntau, dywedodd fod ei blant yn deffro yn "sgrechian" yn ystod y nos yn sgil y digwyddiad, a bod un ohonynt wedi gofyn i Siôn Corn am "gorff newydd" i'w dad.

"Dwi'n cofio'r cyfan yn digwydd ac yn ei ail-fyw yn aml," meddai.

Dywedodd y barnwr bod Mr Simnett wedi gwneud y peth cywir, ac yn sgil yr hyn a wnaeth, wedi "mwy na thebyg" achub bywyd ei deulu.

Ffynhonnell y llun, CPS
Disgrifiad o’r llun,

Gadawodd Harris Tŷ Belgrave 14 munud wedi iddo gyrraedd yno, a chael ei weld ar CCTV yn cerdded o'r adeilad

Yn amddiffyn, dywedodd Nadin Radford QC bod Harris wir yn edifar am yr hyn a wnaeth, ond nad oedd yn gallu esbonio'i weithredoedd ag yntau "heb unrhyw amheuaeth" yn feddw.

Roedd ei benderfyniad, meddai, yn "anesboniadwy" ac "nid oedd yn gwneud rhyw lawer o synnwyr".

Dywedodd y Barnwr Thomas i Harris ymddwyn felly yn sgil ei feddwdod.

"Does neb yn gwybod pam wnes di hynny," meddai. "Dangosaist fyrbwylltra rhyfeddol, yn agos iawn at lofruddiaeth."