Brexit: Trefnu warws er mwyn cadw cyflenwadau meddygol
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru ar fin cwblhau cytundeb fyddai'n sicrhau lle ychwanegol er mwyn pentyrru cynhyrchion ar gyfer y gwasanaeth iechyd.
Y bwriad yw defnyddio'r warws ychwanegol yn y de-ddwyrain er mwyn storio cyflenwadau meddygol fel chwistrellau, rhwymynnau a menig rwber.
Mae gwerth chwe wythnos o stoc ychwanegol wedi'i drefnu rhag ofn bod Brexit heb gytundeb yn amharu ar gyflenwadau o'r Undeb Ewropeaidd.
Hefyd fel rhan o'r paratoadau ar gyfer Brexit mae'r gwasanaeth iechyd wedi nodi "darparwyr amgen" ar gyfer rhai eitemau.
Mae rhai yn pryderu pe bai'r Deyrnas Unedig yn gadael yr UE heb gytundeb, yna fe allai trefn wirio ychwanegol mewn porthladdoedd arwain at giwiau o lorïau sy'n cario eitemau hanfodol o Ewrop.
Fe fydd Aelodau Seneddol yn pleidleisio unwaith eto ar gytundeb Brexit Theresa May erbyn dydd Mawrth nesaf fan bellaf.
Os caiff ei wrthod, yna mae'r prif weinidog wedi gado rhoi cyfres o bleidleisiau i ASau a allai arwain at Brexit yn cael ei ohirio y tu hwnt i'r 29 Mawrth.
Er gwaethaf yr oedi posibl, dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford ddydd Llun y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb "hyd nes ein bod ni'n gwbl sicr mai'r unig ffordd y gallem ni adael yr Undeb Ewropeaidd fydd â chytundeb".
Fel rhan o'r broses o baratoi ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio ar gynlluniau wrth gefn ar gyfer cynhyrchion a dyfeisiau meddygol yn dilyn adolygiad o'r cadwyni cyflenwi perthnasol a gynhaliwyd gan gwmni Deloitte.
Yn ôl y corff sy'n cynrychioli byrddau iechyd yng Nghymru mae tua hanner yr eitemau ar gyfer y gwasanaeth iechyd yn dod o wledydd yr Undeb Ewropeaidd.
'Anawsterau posibl'
Dywedodd Vanessa Young, cyfarwyddwr Cydffederasiwn GIG Cymru: "Rydyn ni wedi mynd allan i drafod gyda chyflenwyr ac wedi dweud wrthynt am weithio gyda ni i gynyddu'r cyflenwad hwnnw.
"Trwy wneud hynny rydym wedi sylweddoli bod yna nifer fechan lle gallai fod yna anawsterau posibl wrth gael y cyflenwadau hynny ac yna rhoi cynlluniau ar waith i ddweud, wel, os na allwn gael yr union gynnyrch hwnnw beth yw'r cynnyrch amgen y gallem ei sicrhau."
Ar hyn o bryd mae GIG Cymru yn storio llawer o'i gyflenwadau meddygol mewn tri warws mawr ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Cwmbrân a Dinbych.
Mae Llywodraeth Cymru a Chydffederasiwn GIG Cymru wedi cadarnhau wrth BBC Cymru fod cytundebau yn debygol o gael eu cwblhau yn "yr wythnos nesaf" ar gyfer warws ychwanegol yn ne-ddwyrain y wlad.
Dywedodd Ms Young fod y GIG yng Nghymru "wedi gwneud llawer o baratoadau" i ddelio â'r posibilrwydd o unrhyw ymyrraeth yn achos Brexit heb gytundeb.
Bu'n ail-adrodd hefyd rybuddion swyddogol blaenorol "nad oes angen" i gleifion bentyrru eu cyflenwad eu hunain o gyffuriau.
Mae Vaughan Gething, Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, yn gobeithio trafod unrhyw faterion sydd heb eu datrys o ran paratoadau Brexit ar gyfer y GIG mewn cyfarfod gyda gweinidogion iechyd Lloegr a'r Alban mewn cyfarfod yr wythnos nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2019