Storio meddyginiaeth personol yn achosi 'pwysau diangen'
- Cyhoeddwyd
Mae storio meddyginiaeth personol yn achosi pwysau diangen ar y system iechyd, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Daw'r neges wrth i rai unigolion ddechrau storio meddyginiaeth wrth baratoi am brinder posib yn sgil Brexit heb gytundeb.
Dywedodd Yr Adran Iechyd bod cynlluniau eisoes yn eu lle, a'u bod nhw wedi casglu meddyginiaeth ar gyfer y cyhoedd wnaiff barau am hyd at chwe wythnos.
Yn ôl Dan Schmeising, sy'n byw gydag epilepsi, mae'r posibilrwydd o redeg allan o feddyginiaethau yn dilyn Brexit yn "destun pryder gwirioneddol".
Dywedodd un Gwas Sifil o Sir Gaerfyrddin, oedd yn dymuno aros yn ddienw, ei bod hi wedi casglu gwerth chwe mis o feddyginiaeth oherwydd ofnau am effaith posib Brexit.
Oherwydd bod yr holl feddyginiaeth y mae hi'n ei gymryd yn cael ei gynhyrchu gan gwmnïau Ewropeaidd, mae hi'n poeni gall unrhyw oedi ar y ffin gael effaith ar ei hiechyd.
"Efallai ei fod yn swnio'n wirion i rywun sydd ddim yn byw gyda diabetes, ond rydw i am farw os nad oes gen i'r inswlin cywir," meddai.
"Rydw i'n llwyddo i storio gwerth mis o feddyginiaeth bob tro dwi'n derbyn fy mhresgripsiwn, ond dim ond hyn a hyn o le sydd yn y rhewgell."
Ychwanegodd ei bod hi'n pryderu am gynnydd posib mewn prisiau bwyd hefyd, ar ôl i adwerthwyr rybuddio bod Brexit heb gytundeb yn peryglu diwydiant bwyd y DU.
'Cwbl ddiangen'
"Gall storio personol rwystro rhywun arall yng Nghymru neu ran arall o'r DU rhag derbyn y feddyginiaeth sydd eu hangen arnynt", yn ôl Prif Swyddog Fferyllol Llywodraeth Cymru, Andrew Evans.
"Mae storio a chasglu meddyginiaeth yn gwbl ddiangen a gallai effeithio ar y cynlluniau mae Llywodraeth y DU eisoes wedi rhoi yn eu lle," meddai.
Yn adroddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru ar effaith Brexit ar iechyd, nodai'r corff fod yno "ansicrwydd sylweddol" dros y ffordd y bydd meddyginiaeth yn cael ei reoleiddio wedi Brexit.
Ychwanegodd Suzanne Thomas, cadeirydd Bwrdd Fferylliaeth Cymru, bod storio personol yn arwain at leihad yn y prif gyflenwad.
"Ein cyngor ni i gleifion yw parhau gyda'u harchebion meddyginiaeth arferol. Os oes gennych chi unrhyw bryderon, yna cerwch i drafod gydag eich fferyllydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mai 2017
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2019