Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Yr Alban 11-18 Cymru
- Cyhoeddwyd

Josh Adams yn sgorio cais i Gymru wedi 13 munud
Bydd Cymru yn mynd am y Gamp Lawn ddydd Sadwrn nesaf wedi iddyn nhw drechu yr Albanwyr o saith pwynt ym Murrayfield.
Roedd yna gryn edrych ymlaen at y gêm wedi i Gymru drechu y Saeson o 21-13 yn Stadiwm y Principality bythefnos yn ôl.
Y tîm cartref a sgoriodd gyntaf ym Murrayfield wrth i Finn Russell sicrhau cic gosb lwyddiannus.
Ond 13 munud i fewn i'r gêm roedd yna gais i Josh Adams ac wedi i Gareth Anscombe drosi'n llwyddiannus roedd y sgôr yn 3-7.

Daeth ail gais i Gymru gan Jonathan Davies
O fewn munudau roedd yna ail gic gosb lwyddiannus i Finn Russell ac roedd Yr Alban wedi gostwng mantais Cymru i un pwynt.
Ond wedi 24 munud llwyddodd Anscombe i ymestyn y mantais ymhellach gyda chic gosb lwyddiannus.
Hanner awr fewn i'r gêm a chais arall i Gymru - Jonathan Davies y tro hwn - wedi gwaith arbennig o dda gan y blaenwyr. Ar yr egwyl roedd y sgôr yn 6-15.

Rhai o'r cefnogwyr a deithiodd i'r Alban
Roedd ymdrech Yr Alban yn fawr ar ddechrau'r ail hanner ond roedd amddiffyn Cymru yn gryf.
Er hynny yr Albanwyr a sgoriodd gyntaf yn yr ail hanner wrth i Darcy Graham sgorio cais i ddod â'r tîm cartref yn ôl i'r gêm (11-15) wedi symudiad da gan yr olwyr.
Cymru yn colli cyfle yn fuan wedyn a'r Alban yn ennill tir ac yn rheoli'r gêm gyda dim ond 12 munud i fynd.
Yn ystod y munudau diwethaf roedd y gêm yn y fantol ond fe ddaeth cic gosb i Cymru (Gareth Anscombe) a'r sgôr terfynol oedd 11-18.
Seren y gêm oedd Hadleigh Parkes.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2019