Stephen Crabb: 'Cefnogwch gytundeb Brexit Theresa May'

  • Cyhoeddwyd
Stephen Crabb
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Stephen Crabb mai'r hyn a amlinellwyd gan Theresa May nos Lun yw'r "unig opsiwn" ar gyfer Brexit

Mae cyn-ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb yn annog Aelodau Seneddol i gefnogi cytundeb Brexit Theresa May ddydd Mawrth.

Dywedodd Mr Crabb, AS Preseli Penfro bod cefnogwyr Brexit yn "dal mas am berffeithrwydd ond dyw perffeithrwydd ddim yn debygol o ddod".

Ac mae'r Ysgrifennydd Gwladol presennol, Alun Cairns wedi dweud wrth BBC Cymru fod cytundeb Mrs May yn ateb "nifer o'r pryderon a godwyd".

Ond ym marn Gweinidog Brexit Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles does dim byd newydd yn sgil datganiad diweddaraf Mrs May.

Dywedodd bod y cytundeb fydd yn mynd gerbron ASau nos Fawrth yn "dal i fod yn gytundeb gwael i Gymru... nid yw'r sefyllfa wedi newid o gwbl".

Dywedodd Mr Crabb bod datganiad Mrs May nos Lun yn "tanlinellu mai'r cytundeb sydd gerbron pawb yw unig opsiwn os yw'r Tŷ Cyffredin yn mynd i weithredu Brexit".

Dywedodd bod y grŵp o gefnogwyr Brexit ymhlith y Ceidwadwyr "angen meddwl yn galed am eu penderfyniad i atal datblygiadau.

"Maen nhw'n dal mas am berffeithrwydd ond dyw perffeithrwydd ddim yn debygol o ddod. Mae'n rhaid i ni ddod at ein gilydd, nawr, a chwblhau hyn."

Disgrifiad o’r llun,

Wrth ymweld â Senedd Ewrop yn Strasbwrg, mae Gweinidog Brexit Cymru, Jeremy Miles wedi pwysleisio sicrhau 'lle cadarnach' i fusnesau Cymru

Dywedodd Mr Miles nad yw'r datganiad diweddaraf yn newid dim, ac y dylai Mrs May wedi bod yn fwy hyblyg gyda'i gofynion i'r Undeb Ewropeaidd.

"Rydw i yma yn Strasbwrg i argyhoeddi aelod-wladwriaethau eraill bod yna bobl ym Mhrydain sy'n barod i drafod cytundeb arall, a fyddai'n rhoi lle cadarnach i fusnesau yng Nghymru barhau i fasnachu gyda gwledydd eraill yn yr UE," meddai.

Datganiad yn 'ateb pryderon'

Dywedodd Mr Cairns bod cytundeb diweddaraf Mrs May yn "ein galluogi i fod yn genedl sy'n masnachu'n annibynnol, i gadw mynediad i farchnad yr UE, ac yn ein hatal rhag anfon symiau mawr i Ewrop.

"Mae'n amddiffyn gweithgynhyrchu ac amaethu Cymru a'r DU.

"Mae hefyd yn ateb pryderon rhai y bydd DU wedi ei rhwymo gyda'r backstop. Mae yna fecanwaith cyfreithiol eglur fydd yn diogelu buddiannau'r DU."