'O'n i erioed wedi gweld fy hun yn gweithio mewn carchar'
- Cyhoeddwyd
Wnaeth Alys Lewis erioed ddychmygu y byddai hi'n gweithio mewn carchar rhyw ddydd: hyfforddodd fel llyfrgellydd a chael swydd yn Llyfrgell Wrecsam cyn mynd i weithio fel ymchwilydd i'r BBC.
Ond pan roedd Carchar y Berwyn ger Wrecsam yn paratoi i agor yn 2017, a hithau wedi gadael y BBC, fe geisiodd am swydd yno fel llyfrgellydd.
Gyda thros 2,000 o ddynion wedi eu carcharu yno dyma garchar mwyaf y DU ac un o rai mwyaf Ewrop.
"O'n i ddim yn gwybod be i'w ddisgwyl a bod yn onest - o'n i erioed wedi gweld fy hun yn gweithio mewn carchar," meddai Alys, sydd ddim eisiau inni gynnwys llun ohoni am resymau diogelwch.
"Ro'n i ychydig yn bryderus ond i fod yn onest 'dyw e ddim mor wahanol â hynny i weithio mewn unrhyw lyfrgell.
"Mae 99 allan o 100 o'r cwsmeriaid yn berffaith iawn, gallai'r un sydd ar ôl achosi problemau neu fod yn boen ond mae 'run peth a gweithio unrhyw le ti'n gorfod delio ag aelodau o'r cyhoedd.
"Mae na fariau ar y ffenestri ond heblaw am hynny mae'n edrych fel unrhyw lyfrgell arall."
Mae swyddogion diogelwch yn yr adeilad a larwm y gall y llyfrgellwyr ei wasgu os oes angen ond dydyn nhw erioed wedi gorfod gwneud, meddai Alys.
Pa fath o lyfrau maen nhw'n eu darllen?
"Mae na lot o ddiddordeb mewn pynciau do'n i ddim yn disgwyl mewn carchar - maen nhw'n hoffi barddoniaeth, ieithoedd, crefftau - unrhyw beth i lenwi eu hamser.
"Maen nhw hefyd yn hoffi ffuglen hanesyddol a ffantasi, yn ddiddorol - o'n i'n meddwl falle mai crime fiction fasai'n boblogaidd ond, na, maen nhw hoffi awduron fel Ben Kane a Simon Scarrow - ffuglen hanesyddol a ffuglen ffantasi.
"Ond mae na wahaniaethau mawr - wnaethon ni gael y llyfrau oddi ar y Booker Long List a'r Short List ac roedd lot o'r dynion wedi darllen rhai o'r rheiny."
'Cadw normalrwydd'
Un o egwyddorion creiddiol Carchar y Berwyn meddai Alys yw egwyddor normalrwydd. Mae'n garchar categori C felly mae'r dynion sydd yno fel arfer yn dod at ddiwedd eu cyfnod yn y carchar a'r nod yw eu paratoi at fywyd 'normal' ar ôl gadael.
"Rydyn ni yn cael lifers ond maen nhw wedi bod yn y carchar am amser hir a mae'n nhw'n dod falle i ddiwedd eu dedfryd, neu ni'n cael pobl nad ydy eu troseddau mor ddifrifol,"meddai Alys.
"'Dyn ni'n trial bod mor debyg a gallwn ni i fywyd ar y tu allan."
Mae'r dynion - sef y term sy'n cael ei annog yn hytrach na 'charcharorion' - yn cael mynd â phump llyfr allan am dair wythnos yr un.
Mae darllen llyfr yn cynnig dihangfa a rhywbeth i'w wneud i'r dynion.
"Rwy'n cael y teimlad bod na lot o amser 'tu ôl dy ddrws' lle does ganddyn nhw ddim byd llawer i'w wneud heblaw gwylio'r teledu felly maen nhw yn trial dianc mewn i lyfr ambell waith," meddai Alys.
"Rwy wedi clywed sawl un yn dweud 'there's only so much television you can watch' felly mae llyfrau'n bwysig iawn iddyn nhw."
Recordio stori i'w plant
Un o'r pethau pwysig eraill maen nhw'n rhan ohono meddai Alys yw prosiect gan elusen o'r enw Storybook Dads, sy'n rhoi cyfle i'r dynion recordio stori i'w plant.
"Maen nhw'n cael eu recordio yn darllen llyfr ac maen nhw'n gallu rhoi neges i'w plant hefyd a rydyn ni'n ei anfon i'r elusen a maen nhw'n rhoi'r stori ar CD," meddai Alys.
"Mae'r CD wedyn yn cael ei anfon i'w plant er mwyn iddyn nhw allu clywed eu tad yn darllen y stori iddyn nhw."
Mae canran uchel o droseddwyr sydd yn y carchar yn colli cysylltiad gyda'u teuluoedd ac yn ôl yr elusen, mae'r rheiny sy'n cadw mewn cysylltiad chwech gwaith yn llai tebygol o aildroseddu.
Dywed yr elusen fod y prosiect hefyd yn helpu'r tad sydd yn y carchar i deimlo mwy o hunan-werth ac yn helpu gyda lles y plentyn.
"Mae lot o'r dynion sydd yn rhieni yn manteisio ar y cyfle a mae llawer wedyn yn gofyn i'w gwraig neu eu partner brynu copi o'r llyfr fel bod y plant yn gallu darllen gyda nhw," ychwanega Alys.
"Mae mor fanteisiol ar gymaint o lefelau, mae'n helpu gyda llythrennedd ac yn helpu i gadw'r family ties yn gryf."
Dysgu sgiliau sylfaenol
Mae coleg ar safle'r carchar hefyd i'r dynion ddysgu sgiliau sylfaenol ac mae gwahanol weithdai yn cael eu cynnal iddynt - mae'r awdur Sian Northey wedi bod yno'n cynnal gweithdy ysgrifennu gyda rhai o'r carcharorion Cymraeg eu hiaith.
Mae'r llyfrgell yn helpu drwy gynnig llyfrau all eu helpu i ddysgu'r sgiliau yma a deunydd ar gyfer pobl â sgiliau darllen isel.
"Rydyn ni'n darparu llyfrau o'r lefel mwyaf sylfaenol - ond eto mae 'na bobl yma sydd â gradd sy'n mwynhau darllen ar y tu allan, felly rydyn ni'n gorfod bod yn ymwybodol iawn y gall unrhyw un ddod trwy'r drws fel mewn unrhyw sefydliad cyhoeddus.
"Ond mae rhai ddim yn defnyddio llyfrgelloedd gymaint â hynny ar y tu allan ond pan maen nhw yma, ma fe'n rhywbeth iddyn nhw eu wneud - mae'n ddihangfa.
"Glywes i un dyn yn dweud 'the only good thing about prison is, I can read, and I love to read'.
"O'n i eisiau dweud wrtho fe 'you can read outside prison too!' Ond roedd e fel pe bai e heb feddwl am hynny."
Hefyd o ddiddordeb: