Gweithredu cyfyngiadau cyflymder i wella ansawdd aer

  • Cyhoeddwyd
ansawdd aerFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd cyfyngiadau cyflymder o 50 m.y.a.yn cael eu gosod ar bump o ffyrdd prysuraf Cymru ddydd Llun fel rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella ansawdd aer.

Y bwriad yw gostwng lefelau anghyfreithlon o nitrogen deuocsid.

Amcangyfrifir bod ansawdd aer gwael yn cyfrannu'n rhannol at 2,000 o farwolaethau'r flwyddyn yng Nghymru wrth iddo effeithio'n bennaf ar bobl fregus.

Bydd y cyfyngiadau o 50 m.y.a. yn cael eu cyflwyno ar ddarnau byr o'r ffordd yn y lleoliadau a ganlyn:

•A494 yng Nglannau Dyfrdwy

•A483 yn Wrecsam

•M4 rhwng Cyffyrdd 41 a 42 (Port Talbot)

•M4 rhwng Cyffyrdd 25 a 26 (Casnewydd)

•A470 rhwng Glan-bad a Phontypridd.

Y gobaith yw y bydd y cyfyngiadau yn gwella ansawdd yr aer yn syth wrth i allyriadau ostwng oddeutu 18%.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhan o'r M4 trwy Bort Talbot yn un o bump lleoliad mae cyfyngiad cyflymder

Mae tystiolaeth yn dangos bod allyriadau nitrogen deuocsid ar eu hisaf pan mae cerbydau ysgafn, y rhai sy'n fwyaf cyfrifol am lygru'r aer, yn teithio rhwng 40 a 50 m.y.a..

Mae'r cynllun gostwng cyfyngiadau dros dro yn un o nifer o gynlluniau sy'n cael ei weithredu gan Lywodraeth Cymru er mwyn gwella ansawdd aer.

Ym mis Ebrill fe gyhoeddodd Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn, becyn o fesurau a chronfa gwerth £20m i sicrhau aer glân yng Nghymru.

Ymhlith cynlluniau eraill mae darparu gwefan Ansawdd Aer er mwyn rhoi gwybodaeth i'r cyhoedd am lefelau llygredd aer yn eu hardaloedd.

'Angen i San Steffan weithredu'

Wrth i'r cyfyngiadau ddod i rym dywedodd y Gweinidog Amgylchedd: "Rwy'n ymrwymo i weithredu i ostwng llygredd aer yng Nghymru er mwyn sicrhau dyfodol iachach i'n cymunedau a gwarchod ein hamgylchedd naturiol.

"Mae'r lefelau presennol o nitrogen deuocsid yn y pum lleoliad a nodir uchod yn uwch na'r cyfyngiad cyfreithiol ac felly mae'n rhaid gweithredu cyn gynted â phosib.

"Mae ein hymchwiliad cychwynnol yn dangos y dylai gyrru ar 50 m.y.a. wella ansawdd yr aer ym mhob lleoliad.

"Mae'n cynlluniau gweithredu i wella safon yr aer yma yng Nghymru yn sicrhau gwell amodau ar gyfer gwell iechyd."

Mae Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, yn dweud ei bod yn hen bryd i lywodraeth San Steffan fynd i'r afael â gwraidd y broblem.

"Y prif reswm am y llygredd," meddai "yw allyriadau o gerbydau ond San Steffan sy'n gyfrifol am fesurau cyllidol fel treth car a threth car cwmni.

"Yn gyson mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod datganoli pwerau sy'n ein hannog i ostwng allyriadau drwy system drethu."