£12m i drawsnewid gofal iechyd yn y gorllewin

  • Cyhoeddwyd
WardFfynhonnell y llun, PA

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi £12m tuag at brosiect i foderneiddio a gwella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng ngorllewin Cymru, yn ôl cyhoeddiad gan y Gweinidog Iechyd.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gefnogi mentrau sy'n symud gwasanaethau o'r ysbyty i'r cartref ac i'r gymuned, gan ei wneud yn haws i bobl gael y gofal sydd ei angen arnynt a chadw'u hannibyniaeth ar yr un pryd.

Yn ôl Vaughan Gething mae'r buddsoddiad yn gam tuag at "leihau'r pwysau" sydd ar ysbytai a gwella'r ddarpariaeth gall cleifion eu cael o'u cartrefi.

Daw'r cyllid o Gronfa Trawsnewid Llywodraeth Cymru, sef cronfa £100m i gefnogi camau i gyflawni cynllun tymor hir y llywodraeth, Cymru Iachach.

Dan arweiniad Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru, y bwriad yw buddsoddi i wneud defnydd o dechnoleg newydd i fonitro unigolion yn eu cartrefi a darparu cefnogaeth lawn i bobl yn eu cymunedau 24 awr y dydd.

Mae'r bwrdd a'r llywodraeth hefyd yn bwriadu dod â gwasanaethau at ei gilydd, gan dynnu gofal iechyd, gofal cymdeithasol ac unrhyw gymorth angenrheidiol arall at ei gilydd yn yr un lle.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Vaughan Gething fod integreiddio gwasanaethau gofal yn allweddol ar gyfer trawsnewid y gwasanaeth iechyd

Dywedodd Mr Gething: "Gyda disgwyliad oes yn codi a heriau iechyd y cyhoedd yn parhau, bydd ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn wynebu mwy o alw fyth arnynt yn y dyfodol.

"Er mwyn diwallu'r galw hwnnw, mae'n rhaid i ni drawsnewid y modd yr ydym yn darparu gofal yn y dyfodol.

"Bydd angen integreiddio iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a'r trydydd sector yn well i ddarparu gofal yn agosach i gartrefi a lleihau'r pwysau ar ysbytai.

"Mae Cymru Iachach yn nodi sut y gallwn gyflawni hyn a bydd ein Cronfa Trawsnewid yn cyflawni'r weledigaeth honno drwy ariannu prosiectau sydd â'r potensial i ehangu a chael eu defnyddio ym mhob rhan o Gymru."

'Gneud gwahaniaeth gwirioneddol'

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru, bod y bwrdd yn "falch iawn" o dderbyn y buddsoddiad a'r "cyfle i sicrhau rhagor o integreiddio rhwng iechyd a gofal yn ein rhanbarth er budd ein cymunedau".

"Bydd ein tri phrosiect cychwynnol yn canolbwyntio ar dechnoleg, integreiddio cryfach a mwy o gymorth yn y gymuned i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl," meddai.

Gobaith y bwrdd yw y bydd y datblygiadau newydd yn "arwain newid ledled Cymru a thu hwnt", ac maen nhw hefyd yn awyddus "i ddatblygu meysydd eraill o waith rhanbarthol drwy ddatblygu staff a phartneriaid eraill i sicrhau'r gwerth cymdeithasol mwyaf ac i ymgysylltu'n ystyrlon â'n dinasyddion".