Hwb ariannol i gronfa sy'n cefnogi gofal yn nes at adref
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd cronfa sy'n ceisio darparu gofal yn nes at gartrefi'r bobl sydd ei angen yn cael ei ehangu o £10m y flwyddyn i £105m dros dair blynedd.
Bydd y Gronfa Gofal Integredig, a sefydlwyd i gefnogi integreiddio iechyd, gofal cymdeithasol a thai, yn cael hwb ariannol o £75 miliwn dros dair blynedd.
Y nod yw adeiladu tai ar raddfa fwy, sy'n integreiddio gofal cymdeithasol ynghyd â dulliau arloesol eraill o integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol.
Bydd hyn yn cefnogi amcanion rhaglen Llywodraeth Cymru - "Cymru Iachach: ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol" - sy'n cydnabod pwysigrwydd cael tai priodol, a'r effaith a gaiff hyn ar allu pobl i symud gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn nes at gymunedau.
Mae'r cyllid cyfalaf hwn yn ychwanegol at yr elfen refeniw o'r gronfa a gyhoeddwyd ym mis Ebrill eleni, sydd yn £50m.
Mae modd iddo hefyd gefnogi pobl hŷn, pobl sydd â dementia, anableddau dysgu neu anghenion cymhleth, a galluogi'r gwasanaethau cymdeithasol i ddarparu gofal mwy effeithiol iddynt.
Dywedodd Rebecca Evans, Gweinidog Tai ac Adfywio Cymru: "Mae'r cynnydd sylweddol hwn o ran cyllid yno i gael y gefnogaeth iawn i'r bobl sydd ei angen, p'un a ydynt yn bobl hŷn ag anghenion cymhleth a chyflyrau hirdymor, pobol sydd ag anableddau dysgu, plant sydd ag anghenion iechyd cymhleth, neu'n ofalwyr.
"Rydym yn cydnabod pa mor bwysig y gallai tai fod i iechyd pobl.
"Efallai y gall y math o dai gefnogi pobl hŷn, sy'n ei chael hi'n anodd gwneud popeth drostynt eu hunain bellach. Mae tai yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl - yn helpu pobl hŷn i aros yn annibynnol, heb orfod mynd i gartref gofal neu i ysbyty er enghraifft.
"Bydd rhaglen tair blynedd yn caniatáu i fyrddau iechyd, cynghorau, cymdeithasau tai a chyrff eraill wneud gwaith cynllunio gofalus a rheoli prosiectau mwy i ddiwallu anghenion pobl yn lleol. Rwy'n edrych ymlaen at weld llawer mwy o brosiectau fel hyn yn dwyn ffrwyth."
'Cefnogaeth berthnasol'
Dywedodd Huw Irranca-Davies, y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol: "Mae'r cynnydd sylweddol hwn yn mynd i helpu i gyflawni mwy o brosiectau sy'n rhoi cymorth i bobl fyw'r bywydau y maent am eu harwain, wrth ddiwallu eu hanghenion gofal iechyd, neu eu hanghenion gofal cymdeithasol.
"Yn bwysicach na hynny, bydd hefyd yn sicrhau bod modd rhyddhau pobl a rhoi'r gefnogaeth berthnasol iddynt pan nad oes angen gwely mewn ysbyty arnynt mwyach, sy'n rhyddhau adnoddau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
"Nid yw'r holl gyllid yn cael ei roi i gyflenwi prosiectau tai, ond byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau di-dor, gofal yn nes at y cartref a chynorthwyo pobl i fyw bywydau annibynnol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2018