Asgellwr Cymru, Josh Adams i ymuno â'r Gleision

  • Cyhoeddwyd
Josh AdamsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Fe fydd asgellwr Cymru Josh Adams yn gadael Caerwrangon i ymuno â'r Gleision y tymor nesaf.

Fe wnaeth Adams, 22 oed, greu argraff fawr gyda'i berfformiadau yn y Chwe Gwlad gan gynnwys cais cofiadwy yn y fuddugoliaeth yn erbyn Lloegr.

Mae'n golygu y bydd Adams yn parhau i fod ar gael i chwarae i Gymru'r tymor nesaf gan fod rheolau penodol yn gwahardd chwaraewyr sy'n chwarae dramor rhag cael eu dewis i'r tîm cenedlaethol.

Yn Hydref 2017 fe wnaeth Undeb Rygbi Cymru fabwysiadu polisi lle bod yn rhaid i chwaraewyr sy'n chwarae dramor fod wedi ennill dros 60 cap er mwyn chwarae i Gymru.

Nid oedd y rheol yn effeithio Adams, sydd â 11 cap, y tymor hwn gan nad oedd wedi cael cynnig cytundeb yng Nghymru.

Nid oedd y rheol yn effeithio Adams, sydd â 11 cap, y tymor hwn gan nad oedd wedi cael cynnig cytundeb yng Nghymru.

Gan fod ei gytundeb gyda Chaerwrangon yn dod i ben eleni, roedd rhaid bod yr asgellwr yn ymuno ag un o ranbarthau Cymru er mwyn parhau â'i yrfa ryngwladol.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae Adams wedi ennill 11 cap i Gymru

Mae gyrfa Adams wedi datblygu ar garlam, gyda'r cyn-ddisgybl o Ysgol y Strade, Llanelli yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i Gaerwrangon yn Uwch Gynghrair Lloegr yn Rhagfyr 2016.

Nid oedd yn aelod sefydlog o'r tîm cenedlaethol cyn dechrau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.