Darpariaeth Cymraeg i blant ag awtistiaeth ym Mhen-y-bont
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr gam yn nes at ehangu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg i blant ag awtistiaeth yn y sir.
Y bwriad yw agor canolfan newydd cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd yn Bettws, i gyd-fynd gyda'r ganolfan sy'n Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd.
Byddai'r ganolfan arfaethedig yn galluogi plant sydd wedi cael diagnosis o anhwylder ar y sbectrwm awtistig (ASD) i gael cefnogaeth mewn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn lleol cyn symud ymlaen i'r ysgol uwchradd.
Yn ôl y Cynghorydd Charles Smith, sy'n aelod cabinet dros addysg ac adfywio, "cam rhesymegol ymlaen" yw creu darpariaeth Gymraeg mewn ysgol gynradd wedi llwyddiant y ganolfan yn Llangynwyd.
Y cam nesaf yw cyhoeddi nodyn statudol a bydd cyfle i bobl wrthwynebu'r cynllun yn ysgrifenedig tan y 27 Mawrth.
Petai'n cael ei gymeradwyo, byddai'r ganolfan yn debygol o gynnig lle i wyth disgybl o fis Medi 2019 ymlaen.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd16 Awst 2018
- Cyhoeddwyd6 Mai 2017