Adam Price: 'Refferendwm ar annibyniaeth yn bosib'

  • Cyhoeddwyd
Adam Price

Fe ddylid cynnal refferendwm ar y cwestiwn o annibyniaeth i Gymru oni bai bod cyfres o ofynion yn cael eu sicrhau ar ôl Brexit, yn ôl arweinydd Plaid Cymru Adam Price.

Wrth annerch cynhadledd wanwyn ei blaid ym Mangor dywedodd Mr Price fod yn rhaid cael sicrwydd fod Llywodraeth y DU yn parhau i roi'r un faint o arian sy'n dod i Gymru o'r Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd ar ôl gadael.

Yn ogystal, galwodd am doriadau yng nghanran Treth ar Werth ar gyfer twristiaeth a'r diwydiant adeiladu, ac am ddatganoli pwerau dros drethi maes awyr.

Roedd Mr Price hefyd am weld Cymru yn cael rheolaeth dros bolisi mudo er mwyn "adeiladu gwlad sy'n croesawu'r talent sydd ei angen er mwyn bod yn llwyddiannus yn rhyngwladol".

Ychwanegodd pe na bai hyn yn digwydd "yna mae'n iawn i ofyn i bobl a fyddai'n well ein bod yn rheoli ein hunain fel aelod annibynnol o'r Undeb Ewropeaidd ac nid fel rhanbarth eilradd o fewn gwladwriaeth Brydeinig sy'n methu."

Mae Plaid Cymru yn ffafrio refferendwm arall ar Brexit hefyd, ac fe wnaeth Mr Price gyhuddo Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, o dynnu 'nôl ar addewid i gefnogi ail refferendwm.

Trodd ei sylw hefyd at ddelwedd ei blaid.

Dywedodd fod Plaid am ennill tir yng Nghymru ond na fyddai'n cymryd ei chadarnleoedd yn ganiataol.

Ychwanegodd: "Ond gyfeillion os rydym am i Gymru newid mae'n rhaid i ni newid hefyd."

Dywedodd Mr Price fod angen i'r blaid wneud newidiadau er mwyn gallu arwain Llywodraeth Cymru ar ôl 2021.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Blaid Cymru bedwar Aelod Seneddol a 10 Aelod Cynulliad

Yn y gorffennol, mae Plaid Cymru wedi llywodraethu mewn clymblaid gyda Llafur, ac wedi cytuno ar fargeinion yn y Cynulliad.

Wrth gael ei holi cyn y gynhadledd ni wrthododd Aelod Seneddol Plaid Cymru, Jonathan Edwards, y syniad o ffurfio clymblaid gyda'r Ceidwadwyr ar ôl yr etholiad nesaf yn 2021.

Ond cyn ei araith mewn cyfweliad ar BBC Radio Wales, fe fynnodd Mr Price nad oedd Mr Edwards yn dadlau dros glymblaid gyda'r Torïaid, ond yn dweud bod "Llafur cynddrwg â'r Ceidwadwyr yn nhermau'r effaith negyddol ar fywydau pobl yng Nghymru".

Gwrthododd Mr Price y byddai'n mynd i glymblaid gyda'r Ceidwadwyr, gan ychwanegu: "Dyma'r gwahaniaeth - a dyma'r peth newydd - dydw i ddim yn fodlon derbyn clymblaid gyda Llafur chwaith."

"Rydw i wedi gwrthod clymblaid gyda'r Ceidwadwyr a'r Blaid Lafur.

"Dyna'r neges rydyn ni am ei yrru i bobl Cymru; mae hi'n ddewis rhwng Mark Drakeford fel prif weinidog neu Adam Price."

"Mae gweithio gyda'r Ceidwadwyr yn gam yn rhy bell i nifer o fewn Plaid Cymru, gan gynnwys eu cyn-arweinydd Leanne Wood."