Plaid Cymru angen 'brand mwy cynhwysol', medd cyn AS SNP
- Cyhoeddwyd
Mae Plaid Cymru'n "brwydro" i gyflwyno'i hun fel plaid ar gyfer Cymru gyfan ac fe ddylai ystyried newid ei henw, yn ôl cyn aelod seneddol yr SNP.
Dywed Angus Robertson bod y blaid angen "brand mwy cynhwysol" sy'n apelio at bob rhan o'r wlad.
Mae adroddiad wedi awgrymu Plaid Cymru Newydd/New Wales Party fel posibilrwydd y dylid ei drafod ymhellach.
Roedd Adam Price wedi awgrymu newid enw'r blaid wrth ymgyrchu i'w harwain y llynedd.
Adolygiad
Cafodd Mr Robertson, cyn arweinydd yr SNP yn San Steffan, ei gomisiynu gan Mr Price i adolygu'r ffordd y mae'r blaid yn cael ei rhedeg.
Mae blas o'i ymateb yn ymddangos yn New Nation - cylchgrawn sy'n cael ei gyhoeddi gan felin drafod Plaid Cymru, Novo Cambria.
Dywed Mr Robertson: "Fe ddylid cael brand mwy cynhwysol i'r blaid.
"Fe allai dewis yr enw Plaid Cymru Newydd/New Wales Party - fel yr awgrymwyd yn ystod yr ymgyrch arweinyddol - fod yn un ffordd ymlaen bosib ac mae'n haeddu trafodaeth.
"Dylai'r blaid ddod o hyd i arwyddair sy'n annerch Cymru yn ei chrynswth.
"Rhaid iddo gyflwyno awydd deinamig, positif a chynwysol ar sail adfywio."
Dywedodd bod perthynas agos Plaid Cymru â'r Gymraeg yn golygu ei bod "yn cael ei gweld fel plaid yr iaith Gymraeg yn unig".
"Golyga hynny bod Plaid yn brwydro i gyrraedd y di-Gymraeg, a gan fod ardaloedd Cymraeg eu hiaith erbyn hyn wedi eu cyfyngu yn ddaearyddol, mae Plaid hefyd yn brwydro i gyflwyno'i hun fel plaid ar gyfer Cymru gyfan."
Mae hynny, meddai, yn creu "dilema sylfaenol" i'r blaid, sy'n cynnwys aelodau sy'n ymroddi'n gryf i'r iaith a'i "phwysigrwydd cynhenid".
Ychwanegodd: "Wrth ymateb i'r dilemâu hyn, mae'n rhaid ymdrechu'n gadarn i greu delwedd a neges a fydd yn apelio'n gyffredinol ar draws Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Medi 2018
- Cyhoeddwyd16 Medi 2018