Ateb y Galw: Y gantores Mabli Tudur
- Cyhoeddwyd

Y gantores Mabli Tudur sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddi gael ei henwebu gan Eädyth yr wythnos diwethaf.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Cwrdd â fy chwaer, Betsan, am y tro cyntaf yn yr ysbyty.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Tom Daley a Justin Bieber... o'dd posteri gen i ym mhob man!

Mae gan y deifiwr, Tom Daley, nifer o fedalau o dan ei felt (neu ei siorts nofio)
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Dwyn losin o'r siop pan yn wyth...
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Wythnos diwethaf.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Brathu gwinedd ac ymddiheuro dros bopeth.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Llangrannog - pam ddim?
Mabli yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2017
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Nofio yn y môr ar wyliau gyda fy ffrindiau gorau yn y nos (yn borcyn) a chael ein dal gan yr heddlu!
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Gullible, edgy, angerddol.
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
About Time - ma'r gerddoriaeth, yr actio a'r stori yn anhygoel.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Emma Thompson (ma' hi'n ôsym), Lisa Kudrow (tips actio a chomedi) a Jeremy Jordan.

Mae Emma Thompson yn seren ar lwyfan, y sgrin fach a'r sgrin fawr - ac mae Mabli'n meddwl ei bod hi'n 'ôsym'
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi'n gallu gwneud impression da o Krusty the Clown o The Simpsons.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Ymlacio ar draeth yn yr Eidal (Positano).
Beth yw dy hoff gân a pham?
Archie, Marry Me gan Alvvays.

O archif Ateb y Galw:

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Sushi / Cinio rhost / Sticky toffee pudding â chwstard.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Lily James.
Pwy sydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Alffa