Llai o ddisgyblion difreintiedig yn cael addysg Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
YsgolFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae angen edrych yn fwy agos ar pam fod llai o ddisgyblion o gefndiroedd difreintiedig yn mynd i ysgolion cyfrwng Cymraeg, yn ôl adroddiad newydd.

Mae'n un o'r argymhellion mewn ymchwil gan elusen addysg Ymddiriedolaeth Sutton.

Yn yr ysgolion sydd â'r canlyniadau TGAU gorau yng Nghymru, mae cyfran y disgyblion sy'n derbyn prydau ysgol am ddim yn llawer is na'r cyfartaledd cenedlaethol, meddai'r adroddiad.

Mae'n argymell rhoi blaenoriaeth i'r disgyblion tlotaf os yw ysgolion yn llawn, a rhoi llefydd ar hap drwy falot er mwyn sicrhau ystod eang o gefndiroedd.

Bwlch mwy i ysgolion Cymraeg

Edrychodd ymchwilwyr ar y 40 ysgol yng Nghymru gyda'r gyfran uchaf o ddisgyblion oedd wedi cael o leiaf pump TGAU A* i C.

Cyfradd y disgyblion yn cael prydau ysgol am ddim yn yr ysgolion yna ar gyfartaledd oedd 9.6% - tua hanner y ffigwr ar gyfer Cymru gyfan, sef 18.4%.

8% oedd y gyfradd ymhlith yr ysgolion Cymraeg gorau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Tra bod yr ysgolion gorau yn tueddu i fod mewn ardaloedd mwy cyfoethog, ar gyfartaledd roedd yna wahaniaeth o hyd rhwng cyfraddau'r ysgolion gorau a chyfraddau'r dalgylch.

Ar gyfer ysgolion Saesneg roedd hyn yn bennaf oherwydd ysgolion ffydd, yn ôl yr adroddiad.

Roedd yr agendor ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg yn uwch (6%) na'r ysgolion cyfrwng Saesneg (3.5%).

Galw am ystyried dewis ar hap

Fe ddylai'r llywodraeth sicrhau bod addysg cyfrwng Cymraeg ar gael ar sail gyfartal i bawb o bob cefndir cymdeithasol, meddai'r adroddiad.

Dywedodd y dylid edrych ar y rhwystrau posib ac ystyried mesurau fel rhoi gwybodaeth well i rieni mewn ardaloedd difreintiedig.

Yn fwy cyffredinol, mae'r adroddiad hefyd yn argymell bod awdurdodau lleol, yn enwedig mewn ardaloedd dinesig, yn ystyried dewis cyfran o'u disgyblion ar hap tu hwnt i'r dalgylch er mwyn sicrhau ystod eang o gefndiroedd.

Mae'n dweud y gallai lleihau'r pwyslais ar fod yn agos at ysgol arwain at fwy o degwch wrth gael mynediad i'r ysgolion gorau a chyfyngu ar ymdrechion rhai i "chwarae'r system" neu i brynu tai yn agos at yr ysgolion gorau.