Ystyried gwneud addysg rhyw yn orfodol

  • Cyhoeddwyd
plant
Disgrifiad o’r llun,

O dan y cynllun dan ystyriaeth bydd addysg rhyw yn cael ei ddysgu ymhob ysgol gynradd

Mae'n bosib na fydd modd i rieni wrthod gadael i'w plant fynychu gwersi addysg rhyw, yn ôl newidiadau posib gan Lywodraeth Cymru i'r cwricwlwm.

Bydd Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (RSE) newydd yn cael ei gyflwyno mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru.

Dywedodd y gweinidog addysg Kirsty Williams ei bod yn ystyried a ydy gadael i rieni wrthod i'w plant fynychu'r gwersi yn "dal i fod yn briodol".

Mae papur ymgynghori'r llywodraeth yn nodi bod y trefniadau "yn eu lle a heb eu newid ers degawdau" a bod lle i "archwilio dulliau posib er mwyn moderneiddio".

Ychwanega bod "ystyriaeth lawn" yn cael ei roi i'r plant a phobl ifanc fydd yn cael eu heffeithio.

'Gwrando ar safbwyntiau'

Dywedodd Kirsty Williams wrth raglen Wales Live BBC Cymru: "Mae'r hawl [i beidio â gadael disgybl i fynychu gwersi addysg rhyw] yn bodoli ar hyn o bryd, ond wrth i ni symud tuag at ein cwricwlwm newydd, rydym yn manteisio ar y cyfle i edrych a gweld os ydy'r hawl hwnnw'n dal i fod yn briodol.

"Nid ydym yn rhoi hawl i rieni dynnu disgyblion o rannau penodol o'r cwricwlwm - o wersi mathemateg neu wyddoniaeth os ydy rhywun yn poeni nad ydynt yn credu yn y wyddoniaeth am newid hinsawdd - dydyn ni ddim yn rhoi'r hawl i rieni dynnu plant o'r gwersi hynny.

"Felly mae hyn am edrych i weld os ydy'r hawliau hynny'n dal i fod yn briodol wrth i ni symud ymlaen gyda'n newidiadau i'r cwricwlwm.

"Byddwn yn gwneud hyn mewn ffordd sensitif ac fe fyddwn yn gwrando ar safbwyntiau, ac nid ydym yn bwrw ati mewn ffordd ddi-hid gan ein bod yn sylweddoli bod hyn yn fater cymhleth a phwysig iawn... dyna pam rydym yn gwrando o ddifri ar safbwyntiau pobl."

Ar hyn o bryd, mae Addysg Rhyw a Cydberthnasau (SRE) yn gorfod cael ei ddysgu mewn ysgolion uwchradd ac mae'n ddewisol mewn ysgolion cynradd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams y byddai'r newidiadau'n cael eu gwneud "mewn ffordd sensitif"

Dan y cwricwlwm newydd, bydd RSE yn cael ei ddysgu ymhob ysgol gynradd, yn ogystal ag ymhob ysgol uwchradd.

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru'n dweud dylai RSE fod yn addas ar gyfer y grŵp oedran, ac mae'n annog ysgolion i helpu disgyblion "ddatblygu eu gwybodaeth a dealltwriaeth o hawliau dynol sy'n gysylltiedig â rhywedd, perthnasau a rhywioldeb a sut maent yn cyfrannu at eu hiechyd, lles a diogelwch fel unigolion ac eraill."

Dylai ysgolion hefyd sicrhau bod RSE yn "gynhwysol" gan adnabod pwysigrwydd "amrywiaeth ac amrywiadau ar hyd hunaniaethau yn gysylltiedig â pherthnasau, rhyw, rhywedd a rhywioldeb".

Gwrthwynebiad

Mae rhai grwpiau crefyddol, gan gynnwys y Sefydliad Cristnogol a'r Gwasanaeth Addysg Catholig, yn gwrthwynebu dileu'r hawl i wrthod y gwersi.

Yn ogystal, dywedodd llefarydd ar ran undeb athrawon yr NAHT y dylai'r penderfyniad "barhau i aros gyda rhieni a gofalwyr" ond y dylai elfennau allweddol yn ymwneud â diogelu barhau i bob plentyn.

Ond mae'r Eglwys yng Nghymru a'r Gymdeithas Seciwlar Cenedlaethol wedi cefnogi'r syniad.

Dywedodd yr Eglwys yng Nghymru fod RSE yn helpu pobl ifanc i "ddatblygu dealltwriaeth o oddefgarwch ac amrywiaeth" sy'n ei wneud yn "sylfaenol i bwrpas craidd y cwricwlwm newydd".

Fe wnaeth yr ymgynghoriad gau ddydd Llun, ac mae'r llywodraeth bellach yn bwriadu dadansoddi'r ymatebion cyn dod i benderfyniad.