'Tan ti'n eu colli ti'm yn sylwi y pethau bach maen nhw'n 'neud'
- Cyhoeddwyd
Ar 4 Awst 2016, roedd Steffan Lloyd Owen ar ben ei ddigon ar ôl ennill y Rhuban Glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol - cam arall tuag at ei uchelgais o fod yn ganwr proffesiynol.
Yng nghefn y llwyfan yn dathlu gydag ef yn Y Fenni oedd y person oedd wedi bod yn gefn iddo ac wedi ei annog i barhau i ganu er iddo fygwth rhoi'r ffidl yn y to sawl gwaith - ei fam.
"Ro'n i mor ddiolchgar bod Mam efo fi," meddai. "Roedd hi yno efo Gwen, fy nghariad - y ddwy yn beichio crïo, a Dad yno hefyd wedi gwirioni."
Rhan o'r wobr i'r bariton ifanc oedd perfformio yn Efrog Newydd, lle'r oedd ei fam Sue Owen yn mynd fis yn ddiweddarach - gan wireddu ei breuddwyd o weld y ddinas.
Ond ym mis Medi, tra ar ei ffordd i dorri ei gwallt cyn mynd ar y trip efo'i gŵr, fe'i lladdwyd hi mewn damwain car.
Sul y Mamau
Roedd y teulu cyfan, o Bentre Berw, Ynys Môn, wedi eu llorio ac mae'r ddwy flynedd a hanner diwethaf wedi bod yn anodd iawn.
Ar drothwy Sul y Mamau, dywed Steffan pa mor bwysig ydi siarad am deimladau i ddelio â galar - a pha mor bwysig ydi gwneud y mwyaf o rieni.
Dydd Sul yma, bydd yn prynu blodau i'w rhoi ar fedd ei fam ac yn mynd am ginio gyda'i gariad er mwyn diolch i'w mam hithau.
Meddai: "Dwi'n licio dathlu'r diwrnod - mae'n braf gweld pobl eraill yn gwerthfawrogi eu mamau nhw ac yn gwneud hynny bob cyfle maen nhw'n cael.
"Wrth gwrs ti'n gwerthfawrogi mam tra bod gen ti un ond efo bob rhiant, dim jest mam ond dad hefyd, tan ti'n eu colli nhw ti'm yn sylwi hanner y pethau - y pethau bach - maen nhw'n 'neud.
"O'n i'n ddiolchgar i Mam ei bod hi wedi 'nysgu i sut i smwddio crys cyn y Steddfod. Mae'n swnio mor syml ond faint o weithiau dwi wedi smwddio wedyn ers colli Mam? Faswn i hollol ar goll fel arall. Bob tro dwi'n smwddio, meddwl am Mam ydw i rŵan."
Anogaeth i gystadlu
Er bod Steffan Lloyd Owen wedi ennill gwobrau mawr fel y Kathleen Ferrier a'r W Towyn Roberts, ac ar ei flwyddyn olaf yn astudio llais yn y Royal Northern College ym Manceinion erbyn hyn, oni bai am ei fam fyddai o ddim yn canu o gwbl.
Doedd o ddim yn cael unrhyw lwyddiant pan yn iau, ac wrth deithio adref o eisteddfod sir aflwyddiannus arall pan yn ei arddegau, fe dorrodd ei galon a chyhoeddi ei fod am roi'r gorau iddi.
Fe gafodd Steffan bryd o dafod - ond un mae'n ddiolchgar iawn ohoni erbyn heddiw.
"Dwi'n cofio Mam yn stopio mewn layby a throi ata' i - a dwi'n cofio'r edrychiad yma, un blin ond roedd hi'n ypset hefyd achos roedd hi'n coelio ynof i ond doeddwn i ddim yn coelio yn fi fy hun.
"Wnaeth hi ddweud 'Paid ti â meiddio rhoi mewn - dwi'n gwybod yn well na neb, a 'neith yr olwyn droi a dwi'n addo 'neith pethau gwell ddod i chdi.'
"Pan oedd hi'n troi roedd pawb yn gwrando achos roedd hi mor neis fel arfer.
"Os fasa hi heb ddweud hynny faswn i wedi pacio fo fewn. Fyddai'n ddiolchgar iddi am hynny am byth."
O fewn blwyddyn roedd barn ei fam wedi ei chadarnhau gyda Steffan yn mynd ymlaen i'r Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf erioed - ac ennill.
Yn 2014 aeth i astudio ym Manceinion. Ar ôl cyfnod anodd yno roedd yn anhapus ac eisiau gadael ond heb rannu ei deimladau gyda neb.
"Yn y diwedd nes i ddweud wrth Mam - a'r peth cynta' wnaeth hi ddweud oedd 'Steff - os ti'm yn hapus ti'm yn gorfod 'neud o', achos roedd Mam yn dweud wrtha ni bob tro - mae hapusrwydd yn dod gynta' bob tro. "
Fe adawodd y coleg dros dro gyda'r bwriad o ail-ddechrau'r flwyddyn yn yr hydref - a'i fam yn ei annog i roi cynnig ar y Rhuban Glas yn y cyfamser.
Ers y ddamwain mae wedi bod yn broses hir o adfer - nid yn unig yn emosiynol ond hefyd i'w lais, gafodd ei effeithio am fisoedd oherwydd y straen.
Un o'i gyngherddau cyntaf ar ôl colli ei fam oedd yn Efrog Newydd fel enillydd y Rhuban Glas, flwyddyn ar ôl y ddamwain.
Fe ganodd Anfonaf Angel fel teyrnged i'r bobl gafodd eu lladd yn ymosodiadau 9/11 ond roedd o'n canu teyrnged bersonol ar yr un pryd.
"Dyna'r tro cyntaf i mi ganu'r gân ers colli Mam a nes i feddwl amdani drwy'r gân ac roedd pob gair efo mwy o ystyr.
"I mi, mae'n gân hollol wahanol rŵan i be' oedd hi.
"Ro'n i'n poeni am ei chanu hi. Ddes i drwyddi'n iawn, ond roedd yn anodd ofnadwy."
Pwysigrwydd rhannu teimladau
Eleni, mae'n gobeithio gorffen ei flwyddyn olaf ym Manceinion ac yn mwynhau mwy nag erioed diolch i ffrindiau da yno a'r ffaith ei fod yn fwy parod i siarad am ei deimladau erbyn hyn.
"Mae gymaint o hogiau yn mynd drwy bethau ac ofn siarad - a dwi wedi bod union yr un fath achos roedd gen i gywilydd. Ond ddylsa neb deimlo felly am siarad am eu teimladau nhw.
"Gas gen i'r busnas man up yma, a'r stigma sy'n stopio dynion drafod teimladau.
"Mae mor bwysig siarad."
Mae'n dweud bod teulu, ei ffrindiau agos a'i gariad wedi ei helpu dros gyfnodau anodd - ac mae dilyn ei hoff dîm Newcastle United wedi bod o fudd mawr iddo.
"Er bod o'n costio'n ddrud dwi'n gwirioni cael mynd, ac wedi cael tocyn tymor.
"Mae oherwydd dwi'n edrych ar fywyd mewn ffordd newydd ers colli Mam a'r hyn oedd hi'n ddweud am hapusrwydd.
"O'n i'n ofnadwy o'r blaen am boeni am bethau sydd ddim werth poeni amdanyn nhw. Dwi'n byw bob dydd ac yn meddwl am fy hapusrwydd wastad rŵan."
Hefyd o ddiddoreb: