Plaid yn galw am gyfeirio ymddygiad Arglwydd Elis-Thomas
- Cyhoeddwyd
Dylai'r Prif Weinidog gyfeirio ymddygiad un o'i weinidogion at ymgynghorydd annibynnol, yn ôl arweinydd Plaid Cymru.
Mae Adam Price AC yn honni bod yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas o bosib yn agos at dorri'r cod gweinidogol ar ddau achlysur.
Daw'r alwad yn sgil dadl rhwng y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Fe aeth y llyfrgell yn groes i ddymuniadau'r llywodraeth wrth hysbysebu am brif weithredwr oedd yn siarad Cymraeg.
Dangosodd e-byst bod swyddogion y llywodraeth wedi trafod defnyddio'r cyllid ar gyfer yr Archif Ddarlledu Genedlaethol i roi pwysau ar y llyfrgell i gyd-ymffurfio gyda'u dyheadau.
Mewn llythyr i'r Prif Weinidog, Mark Drakeford dywedodd Mr Price bod "dim amheuaeth" fod y Gweinidog a'i swyddogion wedi ceisio "ymyrryd gyda'r broses benodi".
"Yn ddiamau hefyd, fe fu ymgais i godi ofn ar y Llyfrgell Genedlaethol gyda bygythiadau o ymyrryd â'r cyllid ar gyfer yr Archif Ddarlledu Genedlaethol," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Gallwn gadarnhau bod llythyr wedi ei anfon gan arweinydd Plaid Cymru i'r Prif Weinidog y bore 'ma. Byddwn yn ymateb maes o law."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2018