Chwythu'r chwiban: Galw ar gyngor sir i ymddiheuro
- Cyhoeddwyd
Fe ddylai Cyngor Sir Penfro ymddiheuro yn ddiamod i ddynes wnaeth golli ei swydd ar ôl chwythu'r chwiban am ddyn oedd yn cam-drin plant, medd adroddiad swyddogol.
Fe wnaeth Sue Thomas fynegi pryder am Michael 'Mik' Smith yn 2005, ond yna cafodd hithau ei diswyddo.
Cafodd Smith, cyn weithiwr ieuenctid o Hwlffordd, ei garcharu am chwe blynedd yn 2014 am droseddau rhyw yn erbyn plant.
Mae'r adroddiad yn argymell y dylai Ms Thomas dderbyn ymddiheuriad yn ogystal â thaliad ariannol gan y Cyngor.
Ond mae cyngor cyfreithiol hefyd wedi ei gynnwys sy'n dweud nad oes gan y cyngor y pwerau angenrheidiol i wneud taliadau o'r fath, ac i wrthod yr argymhelliad.
Bu bron i Smith gael ei gymeradwyo fel gofalwr maeth gan Gyngor Sir Penfro er i bryderon gael eu mynegi am ei ymddygiad tra yng nghwmni plant.
Cafodd Smith ei ddiswyddo gan y cyngor yn 2012 ac fe wnaeth y troseddau ddigwydd blwyddyn wedi iddo adael yr awdurdod.
Fe fydd Cabinet Cyngor Sir Penfro yn trafod argymhellion yr adroddiad, gafodd ei lunio gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen y cyngor, ddydd Llun nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2014
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2017