Arddangos gwaith Banksy mewn amgueddfa ym Mhort Talbot
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i'r amgueddfa agor yn hwyrach eleni
Bydd darn o waith celf yr artist Banksy yn cael ei arddangos mewn amgueddfa gelf newydd ym Mhort Talbot.
Cafodd y gwaith - 'Season's Greetings', sy'n dangos bachgen bach yn chwarae mewn lludw - ei brynu gan Mr Brandler ym mis Ionawr.
Dywedodd perchennog y darn, John Brandler, y byddai'r darn yn cael ei arddangos mewn galeri newydd yng nghanol y dref.
Mae'r Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant wedi cadarnhau'r newyddion.
Mae disgwyl i'r amgueddfa agor yn hwyrach eleni, a bydd yn cynnwys casgliad o waith celf rhyngwladol.
Dywedodd Mr Brandler mai amgueddfa Street Art Museum (SAM) fydd y cyntaf o'i fath yn y DU.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2019