'Rhwystredigaeth' am ddyfodol darn Bansky ym Mhort Talbot
- Cyhoeddwyd
Mae perchennog y darn Season's Greetings gan Banksy wedi dweud ei fod yn teimlo'n "rhwystredig ac yn isel" yn sgil trafodaethau i ail-gartrefu'r darn rhywle arall ym Mhort Talbot.
Prynodd John Brandler y darn am swm chwe ffigwr ym mis Ionawr, gan addo'i gadw yn y dref am gyfnod o ddwy flynedd.
Dywedodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot eu bod yn ceisio dod o hyd i "ddatrysiad boddhaol i bawb" wrth drafod symud y darn.
Yn ôl llefarydd o Lywodraeth Cymru, mae'r trafodaethau rhwng Mr Brandler a'r awdurdod lleol yn "parhau".
'Costio'n ddrud'
Mae Mr Brandler yn awyddus i symud y darn o'i leoliad presennol a'i arddangos mewn hen orsaf heddlu ym Mhort Talbot, gan agor amgueddfa o gelf stryd i'r cyhoedd.
Dywedodd Mr Brandler, sy'n berchen oriel gelf yn Essex, bod teithio yn ôl ac ymlaen i drafod dyfodol y darn gyda'r cyngor lleol yn ei adael ar ei golled.
"Mae'n costio'n ddrud i fy musnes i deithio i Gymru i gael y sgyrsiau yma," meddai.
"Dydw i ddim yn gallu fforddio gadael i fy musnes fynd i'r wal i drafod pethau sydd heb ddigwydd. Fy musnes sy'n dioddef."
"Dydw i ddim am ddod i Gymru eto tan fy mod yn gwybod beth sy'n digwydd."
Ychwanegodd bod y trafodaethau ynglŷn ag ariannu a chynllunio'r prosiect yn ei wneud i deimlo'n "rhwystredig ac isel".
Mae ganddo hefyd waith o Amsterdam yn segur mewn garej, yn y gobaith y bydd yn gallu eu dangos yn yr amgueddfa arfaethedig.
"Petawn yn gwybod y byddai pethau wedi bod yn gymaint o straen, ni fyddwn wedi dechrau hyn o gwbl."
Prynodd Mr Brandler y graffiti oddi wrth berchennog y garej, Ian Lewis, gan addo byddai'r gwaith yn aros ym Mhort Talbot am gyfnod o ddwy flynedd, o leiaf.
Dywedodd bod cynllun ar sut i symud y garej wedi cael ei benderfynu, ond bod yna oedi wrth benderfynu ble'r oedd y darn am gael ei roi.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Castell-nedd Port Talbot: "Rydym yn dal i drafod gyda Mr Brandler ac asiantaethau perthnasol i weithio tuag at ddatrysiad boddhaol i bawb."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2018