Ysgol Gerdd Ceredigion yw enillwyr Côr Cymru 2019

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Gerdd CeredigionFfynhonnell y llun, Rondo/S4C
Disgrifiad o’r llun,

Ysgol Gerdd Ceredigion - enillwyr Côr Cymru 2019

Ysgol Gerdd Ceredigion yw Côr Cymru 2019 - fe ddaeth y côr i'r brig wedi iddynt drechu pedwar côr arall yn y rownd derfynol yn Aberystwyth.

Dyma'r nawfed tro i'r gystadleuaeth gael ei chynnal ers ei sefydlu yn 2003.

Eleni roedd dau gategori newydd - ynghyd â'r Corau Cymysg, Corau Ieuenctid a Chorau Plant, roedd categori Lleisiau Unfath yn cyfuno'r corau merched a'r corau meibion a chategori Corau Sioe.

Y pedwar côr arall yn y gystadleuaeth oedd Johns' Boys o Rosllannerchrugog, CF1 o Gaerdydd, Côr Ieuenctid Môn a Chôr Sioe Ieuenctid Môn.

Bydd y côr buddugol o dan arweiniad Islwyn Evans yn mynd yn ei flaen i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Eurovision Choir of the Year yn Gothenburg, Sweden ym mis Awst.

Ddwy flynedd yn ôl daeth Côr Merched Sir Gâr, hefyd o dan arweiniad Islwyn Evans, yn ail yn y gystadleuaeth honno.

Ffynhonnell y llun, Rondo/S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mari Lloyd Pritchard enillodd y wobr i'r arweinydd gorau

Mari Pritchard a enillodd y wobr i'r arweinydd gorau - roedd hi'n arwain Côr Ieuenctid Môn a Chôr Sioe Ieuenctid Môn.

Enillwyd Gwobr y Gwylwyr gan Gôr Sioe Ieuenctid Môn.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna dri beirniad o fri rhyngwladol yn pwyso a mesur y perfformiadau

Nos Sadwrn cafodd y gystadleuaeth i gorau ysgolion cynradd Cymru ei chynnal a'r enillwyr eleni oedd Ysgol Gymraeg Teilo Sant Llandeilo.

Ffynhonnell y llun, Rondo/S4C
Disgrifiad o’r llun,

Ysgol Gymraeg Teilo Sant Llandeilo gyda'i harweinydd Nia Clwyd yn ennill y gystadleuaeth i gorau ysgolion cynradd nos Sadwrn

Yr ysgolion eraill a fu'n cystadlu oedd Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn Porth, Ysgol Gymraeg Llangennech ac enillwyr y gystadleuaeth ddwy flynedd yn ôl, Ysgol Pen Barras, Rhuthun.

Roedd yna dri beirniad o fri rhyngwladol yn beirniadu eleni sef yr arweinydd a'r darlithydd corawl o wlad Pwyl, Anna Wilczewska; Huw Humphreys, Pennaeth Cerdd Canolfan y Barbican, Llundain a Karmina Šilec, Cymrawd ym Mhrifysgol Havard ac arweinydd a chyfarwyddwr o Slofenia.

Enillwyr blaenorol

  • Ysgol Gerdd Ceredigion (2003 a 2009)

  • Serendipity (2005)

  • Cywair (2007 a 2011)

  • Côr y Wiber (2013)

  • Côr Heol y March (2015)

  • Côr Merched Sir Gâr (2017)

Dywedodd Elen Rhys, Comisiynydd Adloniant S4C: "Mae'r gystadleuaeth hon yn un o gonglfeini digwyddiadau S4C ac yn un ry'n ni'n falch iawn ohoni, mae'r safon eto eleni yn anhygoel ac ry'n ni'n falch iawn o ddathlu talentau corawl Cymru ar S4C."